Enwi, cymhwyso a chychwyn1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) (Diwygio) (Cymru) 2014.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru ond nid ydynt yn gymwys o ran adeiladau ynni a eithrir yng Nghymru.
(3)
Yn y rheoliad hwn mae i “adeilad ynni a eithrir” yr ystyr a roddir i “excepted energy building” yn yr Atodlen i Orchymyn Gweinidogion Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) (Rhif 2) 20093.
(4)
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 10 Chwefror 2014.