2014 Rhif 666 (Cy. 73)

Gofal Cymdeithasol, Cymru

Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 22(4) a (5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 19481, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, a thrwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 2(2), 7(2), 12(2) a 17(2) o Fesur Codi Ffioedd am Wasanaethau Gofal Cymdeithasol (Cymru) 20103, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Asesu Adnoddau) a Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2014.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 7 Ebrill 2014 2014.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

RHAN 1Symiau at Anghenion Personol

Y symiau y mae eu hangen at anghenion personol2

Y swm y mae awdurdod lleol i ragdybio bod ei angen ar berson at ei anghenion personol o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 yw £25.00 bob wythnos.

Dirymu3

Mae rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Chymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 20134 wedi ei ddirymu.

RHAN 2Terfyn Cyfalaf

Diwygio’r Terfyn Cyfalaf4

Ym mharagraff (2) o reoliad 20A (Terfyn Cyfalaf – Cymru) o Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 19925, yn lle’r ffigur “£23,750” rhodder y ffigur “£24,000”.

RHAN 3Diwygiadau i’r Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol

Diwygio Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 20115

1

Mae Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 20116 wedi eu diwygio fel a ganlyn—

2

Yn rheoliad 5 (uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth)—

a

ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£50” rhodder y ffigur “£55.00”, a

b

ym mharagraff (3) yn lle’r ffigur “£50” rhodder y ffigur “£55.00”.

3

Yn rheoliad 14(4) (proses yr asesiad modd)—

a

yn is-baragraff (d) ar ôl y geiriau “Lluoedd Arfog” mewnosoder—

a’r Lluoedd Wrth Gefn

b

ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “a” ac ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

da

diystyru £10 o unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr y cyfeirir ato yn erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 20117 ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau i lai na £10 gan bensiwn sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw, gymaint o’r pensiwn hwnnw na fyddai, ynghyd â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr sydd wedi ei ddiystyru, yn fwy na £10; ac

Diwygio Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 20116

1

Mae Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 20118 wedi eu diwygio fel a ganlyn—

2

Yn rheoliad 5 (yr uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy)—

a

ym mharagraff (1) yn lle’r ffigur “£50” rhodder y ffigur “£55.00”, a

b

ym mharagraff (2) yn lle’r ffigur “£50” rhodder y ffigur “£55.00”.

3

Yn rheoliad 16(4) (proses yr asesiad modd) ar ddiwedd is-baragraff (d) hepgorer “a” ac ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—

da

diystyru £10 o unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr y cyfeirir ato yn erthygl 29(1)(a) o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 ac, os yw swm y taliad hwnnw wedi ei leihau i lai na £10 gan bensiwn sy’n dod o fewn erthygl 39(1)(a) o’r Gorchymyn hwnnw, gymaint o’r pensiwn hwnnw na fyddai, ynghyd â swm unrhyw daliad incwm gwarantedig goroeswr sydd wedi ei ddiystyru, yn fwy na £10; ac

Gwenda ThomasY Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y Rheoliadau Asesu Adnoddau”), Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Asesu Modd a Phenderfynu Ffioedd) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Penderfynu Ffioedd”) a Rheoliadau Ffioedd Gofal Cymdeithasol (Taliadau Uniongyrchol) (Asesu Modd a Phenderfynu ar Ad-daliad neu Gyfraniad) (Cymru) 2011 (“y Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol”). Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn dirymu rheoliad 2 o Reoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) a Chymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2013 (“Rheoliadau 2013”).

Mae’r Rheoliadau Asesu Adnoddau yn ymwneud ag asesu gallu person i dalu am lety a drefnir gan awdurdodau lleol o dan Ran 3 o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948.

Mae adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol, wrth asesu gallu person i dalu am lety o dan Ran 3 o’r Ddeddf, ragdybio, yn niffyg anghenion arbennig, fod angen swm rhagnodedig ar berson at ei anghenion personol bob wythnos. Mae rheoliad 2 yn rhagnodi £25.00 fel y swm y mae ei angen at anghenion personol o dan adran 22(4).

Mae rheoliad 3 yn dirymu rheoliad 2 o Reoliadau 2013 a oedd gynt yn rhagnodi’r swm at anghenion personol o dan adran 22(4).

Mae rheoliad 4 yn diwygio’r Rheoliadau Asesu Adnoddau fel y daw’r terfyn cyfalaf a nodir yn rheoliad 20A yn £24,000. Y terfyn cyfalaf yn rheoliad 20A yw uchafswm y cyfalaf y caniateir i berson ei gael cyn i’r person hwnnw ddod yn atebol i dalu am gost unrhyw lety a drefnir o dan Ran 3 o’r Ddeddf, neu i gyfrannu o gyfalaf tuag at y gost honno.

Mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau Penderfynu Ffioedd a rheoliad 5 o’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn rhagnodi yn eu trefn uchafswm rhesymol y ffi am wasanaeth a’r uchafswm rhesymol o ad-daliad neu gyfraniad sy’n daladwy am y gwasanaeth hwnnw. Mae rheoliadau 5(2) a 6(2) o’r Rheoliadau hyn yn diwygio’r Rheoliadau Penderfynu Ffioedd a’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol fel y daw yr uchafswm a nodir yn y naill a’r llall o’r Rheoliadau yn £55.00.

Mae rheoliadau 5(3) a 6(3) yn diwygio rheoliadau 14(4) ac 16(4) o’r Rheoliadau Penderfynu Ffioedd a’r Rheoliadau Taliadau Uniongyrchol yn eu trefn i gynnwys diystyru’r £10 gyntaf o daliad incwm gwarantedig goroeswr a wneir o dan Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011. Mae taliad incwm gwarantedig goroeswr yn daliad a wneir tan farwolaeth priod, partner sifil neu ddibynnydd mewn oed sy’n goroesi. Mae’r diwygiad hwn wedi ei wneud er mwyn sicrhau nad yw’r asesiadau modd i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau dibreswyl yn llai ffafriol na’r asesiadau modd o dan Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 i bobl sy’n cael gofal preswyl.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyflawni Polisïau ar gyfer Plant ac Oedolion, Yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.