8. Brics glo Bord na Móna Firepak (sy’n cael eu marchnata hefyd fel brics glo Arigna Special), a weithgynhyrchir gan Bord na Móna Fuels Limited, Newbridge, County Kildare, Iwerddon—
(a)sydd wedi’u cyfansoddi o lo caled (sef rhyw 50% o’r cyfanswm pwysau), golosg petrolewm (sef rhyw 20 i 40% o’r cyfanswm pwysau), glo meddal (sef rhyw 10 i 30% o’r cyfanswm pwysau) a rhwymwr sydd wedi’i seilio ar starts (sef gweddill y pwysau);
(b)a weithgynhyrchwyd o’r cyfansoddion hynny drwy broses sy’n cynnwys rholio-wasgu a thriniaeth wres;
(c)sy’n frics glo heb eu marcio ar siâp gobennydd, yn pwyso 50 gram ar gyfartaledd; a
(d)nad yw’r sylffwr sydd ynddynt yn fwy nag 1.5% o’r cyfanswm pwysau.