RHAN 1Cyffredinol

Enwi, cymhwyso a chychwynI11

Mae’r Rheoliadau hyn—

a

yn dwyn yr enw Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014;

b

yn gymwys o ran Cymru; ac

c

yn dod i rym ar 20 Mai 2014.

Annotations:
Commencement Information
I1

Rhl. 1 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

TerfynuI22

1

Bydd y darpariaethau canlynol yn peidio â chael effaith ar 8 Rhagfyr 2015—

a

rheoliad 44; a

b

Atodlen 7.

2

Bydd y darpariaethau canlynol yn peidio â chael effaith ar 8 Rhagfyr 2019—

a

rheoliad 30(1)(h);

b

rheoliad 45; ac

c

Atodlen 8.

Annotations:
Commencement Information
I2

Rhl. 2 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

DehongliI33

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw person a benodwyd o dan reoliad 34 neu arolygydd a benodwyd o dan adran 51 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 20065;

  • mae i “awdurdod cymwys” (“competent authority”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4;

  • ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;

  • mae “ceffyl” (“horse”) yn cynnwys bastard mul, asyn neu ful;

  • ystyr “y Comisiwn Rabinaidd” (“Rabbinical Commission”) yw’r corff y cyfeirir ato yn Rhan 4 o Atodlen 3, sy’n gyfrifol am drwyddedu personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita);

  • ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act) yw Deddf Cigydda Dofednod 19676;

  • ystyr “Deddf 1974” (“the 1974 Act”) yw Deddf Lladd-dai 19747;

  • ystyr “iard gelanedd” (“knacker’s yard”) yw mangre a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer storio carcasau anifeiliaid, ond hefyd ar gyfer lladd anifeiliaid yn fasnachol at ddibenion ac eithrio’u bwyta gan bobl gan gynnwys unrhyw gyfleusterau cysylltiedig ar gyfer trin a darparu gwalfeydd i’r cyfryw anifeiliaid;

  • ystyr “lloc ffrwyno” (“restraining pen”) yw lloc neu gompartment sy’n addas ar gyfer ffrwyno anifail buchol llawn-dwf ar ei sefyll at y diben o’i ladd yn unol â defodau crefyddol (fel y’u diffinnir ym mharagraff 1(c) o Atodlen 3), ac sydd wedi ei adeiladu a’i gymeradwyo yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3;

  • ystyr “lloc stynio” (“stunning pen”) yw lloc neu gompartment sy’n addas ar gyfer ffrwyno anifail buchol llawn-dwf at y diben o’i stynio, ac sydd wedi ei adeiladu yn unol â pharagraff 8 o Atodlen 1 neu baragraff 9 o Atodlen 2;

  • ystyr “milfeddyg” (“veterinary surgeon”) yw person a gofrestrwyd yn y gofrestr o filfeddygon o dan adran 2 o Ddeddf Milfeddygon 19668;

  • ystyr “milfeddyg awdurdodedig” (“authorised veterinary surgeon”) yw milfeddyg a awdurdodwyd gan Weinidogion Cymru at y diben o gyflawni asesiadau yn unol â rheoliad 16(c);

  • ystyr “Rheoliad UE” (“EU Regulation”) yw Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1099/2009 a fabwysiadwyd ar 24 Medi 2009 ar ddiogelu anifeiliaid adeg eu lladd9;

  • ystyr “Rheoliadau 1995” (“the 1995 Regulations”) yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 199510;

  • mae i “stynio syml” (“simple stunning”) yr un ystyr a roddir i “simple stunning” yn Erthygl 4(1) a rhaid dehongli “a styniwyd yn syml” (“simple stunned”) yn unol â hynny;

  • ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded fel sy’n ofynnol gan reoliad 12;

  • ystyr “trwydded LlACL” (“WASK licence”) yw trwydded gofrestredig sy’n ofynnol gan, neu a roddir yn unol ag, Atodlen 1 i Reoliadau 1995;

  • ystyr “tystiolaeth o hyfforddi ac arholi” (“evidence of training and examination”) yw—

    1. a

      tystysgrif a roddir gan gorff, a gydnabyddir ac a reoleiddir gan Weinidogion Cymru sy’n goruchwylio’r modd yr hyfforddir ac asesir personau sy’n ymgymryd â lladd anifeiliaid a gweithrediadau perthynol, yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21,

    2. b

      trwydded a roddir gan y Comisiwn Rabinaidd at y diben o ladd anifeiliaid yn unol â’r dull Iddewig (Shechita) ac yn cadarnhau pasio arholiad annibynnol fel y darperir ar ei gyfer yn Erthygl 21, neu

    3. c

      cymhwyster milfeddygol ffurfiol, a gydnabyddir gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS)11, ar y cyd â chofnod datblygiad proffesiynol parhaus yr RCVS;

  • ystyr “tystysgrif” (“certificate”) (ac eithrio yn y term “tystysgrif dros dro” neu reoliad 41) yw tystysgrif cymhwysedd yn yr ystyr a roddir i “certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21, ac mae’n cynnwys cymhwyster a gydnabyddir gan yr awdurdod cymwys fel cymhwyster sy’n gyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7);

  • ystyr “tystysgrif dros dro” (“temporary certificate”) yw tystysgrif cymhwysedd dros dro yn yr ystyr a roddir i “temporary certificate of competence” fel y crybwyllir yn Erthygl 21(5).

2

Mae i’r termau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn, ac y defnyddir y termau ac ymadroddion Saesneg sy’n cyfateb iddynt yn y Rheoliad UE yn ogystal, yr un ystyron yn y Rheoliadau hyn ag y sydd i’r termau a’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Rheoliad UE, oni phennir yn wahanol.

3

Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at Erthygl, neu Bennod neu Atodiad yn gyfeiriad at yr Erthygl neu’r Bennod honno o’r Rheoliad UE neu’r Atodiad hwnnw i’r Reoliad UE.

4

Mae unrhyw gyfeiriad at Atodiad i’r Rheoliad UE yn gyfeiriad at yr Atodiad hwnnw fel y’i diwygir o bryd i’w gilydd.

Annotations:
Commencement Information
I3

Rhl. 3 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Yr awdurdod cymwysI44

1

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw’r awdurdod cymwys at ddibenion—

a

Rhan 2 (tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau), oni phennir yn wahanol;

b

cymeradwyo llociau ffrwyno yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3; ac

c

mewn perthynas â lladd anifeiliaid mewn lladd-dy—

i

cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth yn unol ag Erthyglau 6(4), 9(1), 14(2) a 17(5);

ii

cael ac asesu dogfennau, cofnodion neu wybodaeth arall yn unol â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a

iii

gweithredu os digwydd unrhyw fethiant i gydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, yn unol ag F1Erthygl 138 (camau gweithredu os cadarnheir achos o fethu â chydymffurfio) o Reoliad (EU) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion.

2

Fel arall, Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod cymwys, a hwy sy’n gweithredu fel yr Aelod-wladwriaeth at ddibenion y Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.

3

Caiff Gweinidogion Cymru weithredu fel yr awdurdod cymwys mewn perthynas ag—

a

atal dros dro neu ddirymu tystysgrifau, tystysgrifau dros dro neu drwyddedau o dan Ran 2; a

b

penodi arolygwyr yn unol â rheoliad 34.

RHAN 2Tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau

PENNOD 1Tystysgrifau a thystysgrifau dros dro

Gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros droI55

1

Yn ddarostyngedig i reoliadau 23(2) a 44, ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 ac eithrio o dan dystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y dystysgrif neu’r dystysgrif dros dro honno.

2

Ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 o dan dystysgrif dros dro onid yw’r person hwnnw yn gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw.

Annotations:
Commencement Information
I5

Rhl. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyferI66

Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 yw—

a

unrhyw un o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir mewn lladd-dy—

i

gweithrediad a bennir mewn unrhyw un o’r is-baragraffau (a) i (g) o Erthygl 7(2); a

ii

pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio; a

b

goruchwylio lladd anifeiliaid ffwr yn unol ag Erthygl 7(3).

Annotations:
Commencement Information
I6

Rhl. 6 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

TystysgrifauI77

Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru tystysgrif—

a

os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8; a

b

os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.

Annotations:
Commencement Information
I7

Rhl. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Amodau ar gyfer tystysgrifI88

Rhaid i’r ceisydd—

a

peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif ar gyfer y gweithrediadau canlynol—

i

trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu

ii

gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;

b

yn ddarostyngedig i reoliad 44, cyflwyno tystiolaeth o hyfforddiant ac arholi mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif ar eu cyfer;

c

cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(6);

d

darparu manylion ysgrifenedig—

i

os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

ii

os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

iii

os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo; ac

e

talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Annotations:
Commencement Information
I8

Rhl. 8 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Tystysgrifau dros droI99

Rhaid i’r awdurdod cymwys roi tystysgrif dros dro—

a

os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 10; a

b

os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif dros dro.

Annotations:
Commencement Information
I9

Rhl. 9 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Amodau ar gyfer tystysgrif dros droI1010

Rhaid i’r ceisydd—

a

peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif dros dro ar gyfer y gweithrediadau canlynol—

i

trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu

ii

gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;

b

cyflwyno tystiolaeth o gofrestru ar gwrs o hyfforddiant mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif dros dro ar eu cyfer;

c

cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(5)(d) a (6);

d

darparu manylion ysgrifenedig—

i

os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

ii

os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

iii

os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo.

Annotations:
Commencement Information
I10

Rhl. 10 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Rhoi tystysgrifau a thystysgrifau dros droI1111

1

Rhaid i dystysgrif neu dystysgrif dros dro bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

2

Ni chaniateir rhoi tystysgrif neu dystysgrif dros dro mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw—

a

yn achos tystysgrif, y dystiolaeth o hyfforddiant ac arholi a gyflwynwyd gyda’r cais am y dystysgrif yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar; neu

b

yn achos tystysgrif dros dro, y cwrs hyfforddi y cofrestrodd y ceisydd arno yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

3

Bydd tystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddir yn Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Aelod-wladwriaeth arall o’r Undeb Ewropeaidd, ar gyfer gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn dystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I11

Rhl. 11 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

PENNOD 2Trwyddedau

Gofyniad i gael trwyddedI1212

Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 a 23(2), ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 13 ac eithrio o dan drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y drwydded honno.

Annotations:
Commencement Information
I12

Rhl. 12 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gweithrediadau y mae trwydded yn ofynnol ar eu cyferI1313

Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 12 yw unrhyw rai o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir yn rhywle ac eithrio mewn lladd-dy—

a

gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 10 (bwyta gartref yn breifat), gan berson ac eithrio perchennog yr anifail;

b

gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 11 (cyflenwi yn uniongyrchol feintiau bach o ddofednod, cwningod ac ysgyfarnogod);

c

mewn perthynas â lladd anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau ac eithrio ar gyfer eu bwyta gan bobl—

i

ffrwyno anifeiliaid at y diben o’u stynio;

ii

stynio anifeiliaid;

iii

asesu effeithiolrwydd stynio;

iv

gefynnu neu godi anifeiliaid a styniwyd, ac eithrio dofednod;

v

gwaedu anifeiliaid byw; a

d

pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio.

Annotations:
Commencement Information
I13

Rhl. 13 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Eithriadau i’r gofyniad am drwyddedI1414

Nid yw rheoliad 12 yn gymwys i unrhyw berson—

a

sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;

b

sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif neu’r drwydded yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;

c

sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, milfeddyg;

d

yn ymgymryd â lladd anifail mewn argyfwng;

e

yn lladd anifail at ddiben ac eithrio diben masnachol;

f

at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd anifail yn y maes gan ddefnyddio bwled rydd;

g

at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd dofednod drwy ysigo gyddfau (pan nad oes dulliau eraill ar gael ar gyfer stynio) mewn mangre sy’n ffurfio rhan o ddaliad amaethyddol y megir y dofednod ynddi;

h

yn lladd anifail at y diben o ddiboblogi;

i

yn lladd cywion neu embryonau dros ben mewn gwastraff deorfa;

j

sy’n filfeddyg yn gweithredu wrth ymarfer ei broffesiwn; neu

k

yn lladd anifail mewn amgylchiadau sydd y tu allan i gwmpas y Rheoliad UE yn rhinwedd Erthygl 1(3)(a).

Annotations:
Commencement Information
I14

Rhl. 14 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

TrwyddedauI1515

Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru trwydded—

a

os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 16; a

b

os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad trwydded.

Annotations:
Commencement Information
I15

Rhl. 15 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Amodau ar gyfer trwyddedI1616

Rhaid i’r ceisydd—

a

peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed;

b

darparu manylion ysgrifenedig—

i

os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;

ii

os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu

iii

os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo;

c

darparu tystiolaeth ysgrifenedig fod milfeddyg awdurdodedig wedi asesu’r ceisydd ac o’r farn bod y ceisydd—

i

yn gymwys i gyflawni’r gweithrediad mewn perthynas â’r categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir trwydded ar eu cyfer heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen i anifail, a

ii

bod ganddo wybodaeth ddigonol o ddarpariaethau’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir trwydded ar eu cyfer; a

d

talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Annotations:
Commencement Information
I16

Rhl. 16 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Rhoi trwyddedauI1717

1

Rhaid i drwydded bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

2

Ni chaniateir rhoi trwydded mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw’r asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 16(c) yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

3

Bydd tystysgrifau neu drwyddedau a roddir yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ar gyfer gweithrediadau y mae’n rhaid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I17

Rhl. 17 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

PENNOD 3Darpariaethau gweinyddol

Gwrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwyddedI1818

1

Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded os bodlonir ef—

a

bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliadau 8, 10 neu 16 (yn ôl fel y digwydd); neu

b

nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded.

2

Rhaid i’r hysbysiad—

a

rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

b

rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Annotations:
Commencement Information
I18

Rhl. 18 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwyddedI1919

1

Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro (gan gynnwys tystysgrif neu dystysgrif dros dro a roddwyd mewn Aelod-wladwriaeth arall) neu drwydded os bodlonir ef—

a

bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

b

nad yw’r deiliad bellach yn berson addas a phriodol i ddal y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded;

c

nad yw’r deiliad yn gymwys, neu nad yw bellach yn gymwys, i gyflawni’r gweithrediadau a awdurdodir gan y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded; neu

d

bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.

2

Rhaid i’r hysbysiad—

a

rhoi rhesymau am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad;

b

datgan pa bryd y mae’r ataliad dros dro neu’r dirymiad yn cael effaith ac, yn achos ataliad dros dro, datgan ar ba ddyddiad neu ddigwyddiad y bydd yn peidio â chael effaith; ac

c

rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

3

Rhaid i unrhyw berson, yr ataliwyd dros dro neu y dirymwyd ei dystysgrif, ei dystysgrif dros dro neu’i drwydded, boed yr ataliad dros dro neu’r dirymiad hwnnw yn destun apêl yn unol â rheoliad 22 ai peidio, ildio’r dystysgrif, tystysgrif dros dro neu’r drwydded honno i’r awdurdod cymwys o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad.

Annotations:
Commencement Information
I19

Rhl. 19 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Addasu tystysgrif neu drwyddedI2020

Rhaid i’r awdurdod cymwys addasu tystysgrif neu drwydded mewn perthynas â gweithrediad, y categori o anifail neu (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar yn unol â chais gan geisydd—

a

os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; a

b

os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesir.

Annotations:
Commencement Information
I20

Rhl. 20 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gwrthod addasu tystysgrif neu drwyddedI2121

1

Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod addasu tystysgrif neu drwydded os bodlonir ef—

a

bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; neu

b

nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesid.

2

Rhaid i’r hysbysiad—

a

rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

b

rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Annotations:
Commencement Information
I21

Rhl. 21 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

ApelauI2222

1

Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys i wrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded, neu wrthod addasu tystysgrif neu drwydded, apelio yn erbyn y penderfyniad.

2

Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.

3

Ni fydd penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.

4

Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai wrthdroi neu gadarnhau’r penderfyniad, gydag addasiadau neu hebddynt.

Annotations:
Commencement Information
I22

Rhl. 22 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Trwyddedau LlACLI2323

1

Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, bydd trwydded LlACL a oedd yn parhau mewn grym yn union cyn 20 Mai 2014 yn parhau mewn bodolaeth fel cymhwyster cyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7).

2

Caiff deiliad trwydded LlACL gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 neu 13 heb ddal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys ar yr amod bod y deiliad trwydded LlACL, erbyn 8 Rhagfyr 2015—

a

yn cofrestru’r drwydded LlACL gyda’r awdurdod cymwys, fel tystysgrif; a

b

yn talu ffi yn unol â rheoliad 24.

Annotations:
Commencement Information
I23

Rhl. 23 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

FfioeddI2424

1

Mewn perthynas â chais o fath a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r Tabl, rhaid i’r ceisydd dalu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd y ffi a bennir yng ngholofn 2 mewn perthynas â’r math hwnnw o gais.

Tabl

Colofn 1

Math o gais

Colofn 2

Ffi (£)

Cais am dystysgrif

25

Cais am gofrestru trwydded LlACL fel tystysgrif

25

Cais am addasu tystysgrif

8

Cais am drwydded

25

Cais am addasu trwydded

8

2

Mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 16(c) gan filfeddyg awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd dalu ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) i Weinidogion Cymru.

3

Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw—

a

£76 am yr hanner awr neu ran o hanner awr cyntaf a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig;

b

£21 am bob hanner awr neu ran o hanner awr ychwanegol a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig; ac

c

gwir gost teithio, llety ac unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt yn rhesymol gan y milfeddyg awdurdodedig.

Annotations:
Commencement Information
I24

Rhl. 24 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 3Rheolau cenedlaethol

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-daiI2525

Mae Atodlen 1 yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I25

Rhl. 25 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-daiI2626

Mae Atodlen 2 yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I26

Rhl. 26 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddolI2727

Mae Atodlen 3 yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I27

Rhl. 27 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddyntI2828

Mae Atodlen 4 yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I28

Rhl. 28 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 4Rhanddirymu

Gweithrediadau diboblogiI2929

Pan fo’r awdurdod cymwys yn caniatáu rhanddirymiad o dan Erthygl 18(3), rhaid i’r awdurdod cymwys gyhoeddi hysbysiad ysgrifenedig o’r penderfyniad hwnnw, y caniateir—

a

ei wneud yn ddarostyngedig i amodau;

b

ei gyhoeddi ym mha bynnag fodd yr ystyria’r awdurdod cymwys yn briodol; ac

c

ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu mewn ysgrifen.

Annotations:
Commencement Information
I29

Rhl. 29 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 5Troseddau a chosbau

TroseddauI3030

1

Cyflawnir trosedd os yw person yn torri, neu’n peri neu’n caniatáu i berson dorri—

a

rheoliad 5(1) neu (2) (gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro);

b

rheoliad 12 (gofyniad i gael trwydded);

c

unrhyw un o baragraffau 3 i 32 o Atodlen 1 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-dai);

d

unrhyw un o baragraffau 4 i 44 o Atodlen 2 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dai);

e

unrhyw un o baragraffau 2 i 8 o Atodlen 3 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol);

f

paragraff 4 neu 5 o Atodlen 4 (lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddynt);

g

darpariaeth o’r Rheoliad UE a bennir yn Atodlen 5, ac eithrio pan nad oes angen cydymffurfio â’r ddarpariaeth, yn rhinwedd—

i

esemptiad neu ddarpariaeth drosiannol a bennir yn y Rheoliad UE; neu

ii

rhanddirymiad a ganiateir gan yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 18(3) mewn perthynas â gweithrediad diboblogi; neu

h

tan 8 Rhagfyr 2019, unrhyw un o baragraffau 1 i 7 o Atodlen 8, i’r graddau y maent yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 45 (darpariaeth drosiannol: lladd-dai).

2

Cyflawnir trosedd os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi o dan reoliad 38.

Annotations:
Commencement Information
I30

Rhl. 30 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Troseddau rhwystroI3131

Mae’n drosedd—

a

rhwystro’n fwriadol unrhyw berson sy’n ymgymryd â gweithredu’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

b

heb esgus rhesymol, i fethu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn yn rhesymol am y cyfryw gymorth neu wybodaeth;

c

rhoi i unrhyw berson o’r fath unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol; neu

d

methu â dangos dogfen neu gofnod i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn am weld y cyfryw ddogfen neu gofnod.

Annotations:
Commencement Information
I31

Rhl. 31 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Troseddau gan gyrff corfforaetholI3232

1

Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod, ar ran unrhyw un o’r canlynol—

a

cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu

b

person a oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd.

2

Ym mharagraff (1) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

Annotations:
Commencement Information
I32

Rhl. 32 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

CosbauI3333

1

Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30 neu 31, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, ac eithrio fel y pennir ym mharagraff (2).

2

Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30(1)(g) mewn perthynas â thorri Erthygl 3, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis.

Annotations:
Commencement Information
I33

Rhl. 33 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 6Gorfodi

ArolygwyrI3434

Caiff yr awdurdod cymwys neu awdurdod lleol benodi arolygwyr at y diben o orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I34

Rhl. 34 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Pŵer i fynd i mewn i fangreoeddI3535

1

Caiff arolygydd, ar ôl rhoi cyfnod rhesymol o rybudd, fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol o’r dydd at y diben o weithredu neu orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn; ac yn y Rhan hon, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, lloc, daliedydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.

2

Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd yn gymwys—

a

pan fo’r gofyniad wedi ei hepgor gan y meddiannydd;

b

pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;

c

pan fo arolygydd yn amau’n rhesymol y methir â chydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

d

pan fo arolygydd yn credu’n rhesymol y byddai rhoi rhybudd yn tanseilio’r diben o fynd i mewn; neu

e

mewn argyfwng, pan yw’n ofynnol mynd i mewn ar frys.

3

Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, oni roddir yr hawl i fynd i mewn gan warant a roddwyd o dan reoliad 36.

4

Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol.

5

Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn mynd i mewn iddi.

6

Caiff arolygydd fynd i mewn yng nghwmni’r canlynol—

a

pa bynnag bersonau eraill yr ystyria’r arolygydd yn angenrheidiol; a

b

unrhyw gynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd.

Annotations:
Commencement Information
I35

Rhl. 35 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

GwarantauI3636

1

Caiff ynad heddwch, drwy warant lofnodedig, ganiatáu i arolygydd fynd i mewn i fangre, gan ddefnyddio grym rhesymol pe bai angen, os bodlonir yr ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—

a

bod seiliau rhesymol ar gyfer mynd i mewn i’r fangre honno at y diben o orfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; a

b

bod unrhyw un o’r amodau ym mharagraff (2) wedi ei fodloni.

2

Yr amodau yw—

a

bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu’n debygol o gael ei wrthod, a hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd;

b

byddai gofyn am ganiatâd i fynd i mewn i’r fangre, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio’r diben o fynd i mewn;

c

ei bod yn ofynnol mynd i mewn ar frys; neu

d

bod y fangre’n wag neu’r meddiannydd yn absennol dros dro.

3

Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn ddilys am dri mis.

Annotations:
Commencement Information
I36

Rhl. 36 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Pŵer i arolygu ac ymafaelI3737

1

Caiff arolygydd, a aeth i mewn i fangre at y dibenion o weithredu a gorfodi’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, wneud y canlynol at y dibenion hynny—

a

cyflawni unrhyw archwiliad, ymchwiliad neu brawf;

b

gwneud unrhyw ymholiadau, arsylwi ar unrhyw weithrediad neu broses, gwneud unrhyw recordiadau neu dynnu unrhyw ffotograffau;

c

arolygu a chwilio’r fangre;

d

cymryd samplau (a’u hanfon i’w profi mewn labordy) o unrhyw anifail, carcas neu ran o garcas;

e

ymafael mewn unrhyw garcas neu ran o garcas, a chadw’r cyfryw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;

f

ymafael mewn unrhyw gyfarpar neu offeryn a’i gadw ar gyfer archwilio, ymholi neu brofi ymhellach;

g

cael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar cysylltiedig, ac arolygu a gwirio’r data sydd arnynt, a’u gweithrediad;

h

ymafael mewn unrhyw gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig, at y diben o gopïo data; ond hynny yn unig os yw’r arolygydd yn amau’n rhesymol fod trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni, ac ar yr amod y dychwelir y cyfrifiaduron a’r cyfarpar cysylltiedig cyn gynted ag y bo’n ymarferol;

i

ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfen neu gofnod ac arolygu a gwneud copi neu echdynnu o’r cyfryw ddogfen neu gofnod; a

j

ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn darparu pa bynnag gymorth, gwybodaeth, cyfleusterau neu gyfarpar sy’n rhesymol.

2

Rhaid i arolygydd—

a

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, ddarparu i’r person sy’n ymddangos yn gyfrifol am unrhyw eitemau yr ymafaelir ynddynt gan yr arolygydd o dan baragraff (1), dderbynneb ysgrifenedig sy’n nodi’r eitemau hynny; a

b

cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl penderfynu nad oes angen yr eitemau hynny mwyach, eu dychwelyd, ac eithrio rhai sydd i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys.

3

Pan fo arolygydd wedi ymafael mewn eitemau o dan baragraff (1) i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn achos llys ac yna—

a

penderfynir yn ddiweddarach—

i

na ddygir achos llys; neu

ii

nad oes angen yr eitemau hynny bellach fel tystiolaeth mewn achos llys; neu

b

cwblhawyd yr achos llys ac ni wnaed gorchymyn gan y llys mewn perthynas â’r eitemau hynny,

rhaid i’r arolygydd ddychwelyd yr eitemau cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.

Annotations:
Commencement Information
I37

Rhl. 37 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Hysbysiadau gorfodiI3838

1

Hysbysiad gorfodi yw hysbysiad ysgrifenedig sydd—

a

yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

b

yn ei gwneud yn ofynnol bod person yn lleihau’r gyfradd weithredu i ba bynnag raddau a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn; neu

c

yn gwahardd person rhag cyflawni gweithgaredd, proses neu weithrediad, neu ddefnyddio cyfleusterau neu gyfarpar, a bennir yn yr hysbysiad, hyd nes bo’r person hwnnw wedi cymryd camau penodedig i unioni toriad o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn.

2

Caiff arolygydd sydd o’r farn bod person wedi torri, neu ei fod yn torri, y Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn, gyflwyno hysbysiad gorfodi i’r person hwnnw.

3

Rhaid i hysbysiad gorfodi—

a

datgan bod yr arolygydd o’r farn honno;

b

datgan dyddiad ac amser cyflwyno’r hysbysiad;

c

enwi derbynnydd yr hysbysiad;

d

pennu’r materion sy’n cyfansoddi’r toriad;

e

pennu’r camau y mae’n rhaid eu cymryd i unioni’r toriad;

f

pennu o fewn pa gyfnod y mae’n rhaid cymryd y camau hynny; ac

g

rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn yr hysbysiad.

4

Rhaid i berson y cyflwynir hysbysiad gorfodi iddo gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person hwnnw ei hunan.

5

Os na chydymffurfir â hysbysiad gorfodi, caiff yr arolygydd drefnu i gydymffurfio â’r hysbysiad ar gost y person y cyflwynwyd yr hysbysiad iddo.

6

Rhaid i arolygydd gyflwyno hysbysiad cwblhau os bodlonir yr arolygydd, ar ôl cyflwyno’r hysbysiad gorfodi, fod y person wedi cymryd y camau a bennwyd yn yr hysbysiad ar gyfer unioni’r toriad.

7

Os digwydd i arolygydd beidio â chael ei fodloni fel y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (6), caiff yr arolygydd, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod cyflwyno hysbysiad cwblhau, a rhaid i’r hysbysiad—

a

rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a

b

rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

8

Mae hysbysiad gorfodi yn peidio â chael effaith pan ddyroddir hysbysiad cwblhau.

9

Caiff arolygydd, ar unrhyw adeg, mewn ysgrifen, dynnu’n ôl neu amrywio hysbysiad gorfodi.

Annotations:
Commencement Information
I38

Rhl. 38 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Apelau yn erbyn hysbysiadau gorfodiI3939

1

Caiff person a dramgwyddwyd gan—

a

penderfyniad arolygydd i gyflwyno hysbysiad gorfodi; neu

b

penderfyniad arolygydd i wrthod dyroddi hysbysiad cwblhau,

apelio yn erbyn y penderfyniad.

2

Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.

3

Ni fydd hysbysiad gorfodi yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.

4

Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai ddiddymu neu gadarnhau’r hysbysiad gorfodi, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wneud pa bynnag orchymyn yr ystyria’n briodol ynghylch gwrthodiad i gyflwyno hysbysiad cwblhau.

Annotations:
Commencement Information
I39

Rhl. 39 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Pŵer awdurdod lleol i erlynI4040

Caiff awdurdod lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Rheoliadau hyn.

Annotations:
Commencement Information
I40

Rhl. 40 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Terfyn amser ar gyfer erlyniadauI4141

1

Er gwaethaf adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 198012, caiff llys ynadon roi unrhyw wybodaeth ar brawf sy’n ymwneud â throsedd o dan y Rheoliadau hyn os rhoddir yr wybodaeth gerbron—

a

cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflawni’r drosedd; a

b

cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n cychwyn gyda dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth a ystyrir yn ddigonol gan yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos.

2

At ddibenion paragraff (1)(b)—

a

mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth o’r fath yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno; a

b

rhaid trin tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly fel pe bai wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.

Annotations:
Commencement Information
I41

Rhl. 41 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

RHAN 7Darpariaethau amrywiol

HysbysiadauI4242

1

Caniateir rhoi unrhyw hysbysiad y mae’n ofynnol, neu yr awdurdodir, ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw berson drwy—

a

ei ddanfon i’r person;

b

ei adael yng nghyfeiriad priodol y person; neu

c

ei anfon drwy’r post at y person yn y cyfeiriad hwnnw.

2

Caniateir cyflwyno unrhyw hysbysiad o’r fath—

a

yn achos corff corfforaethol, i swyddog y corff hwnnw; neu

b

yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, i bartner neu i berson sydd â rheolaeth ar, neu sy’n rheoli, busnes y bartneriaeth.

3

At ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 197813 (cyflwyno dogfennau drwy’r post) yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, cyfeiriad priodol unrhyw berson y cyflwynir hysbysiad iddo yw—

a

yn achos corff corfforaethol, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;

b

yn achos partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig, cyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r bartneriaeth;

c

yn achos person y cyflwynir hysbysiad iddo gan ddibynnu ar baragraff (2), cyfeiriad priodol y corff corfforaethol neu’r bartneriaeth dan sylw; a

d

mewn unrhyw achos arall, y cyfeiriad olaf sy’n hysbys ar gyfer y person dan sylw.

4

Os yw person y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn wedi pennu cyfeiriad ar gyfer cyflwyno hysbysiad o’r fath, rhaid trin y cyfeiriad hwnnw hefyd, at ddibenion y rheoliad hwn ac adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978 yn y modd y’i cymhwysir i’r rheoliad hwn, fel cyfeiriad priodol y person hwnnw.

5

Os na ellir canfod enw neu gyfeiriad unrhyw feddiannydd mangre y mae hysbysiad i’w gyflwyno iddo o dan y Rheoliadau hyn ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno’r hysbysiad drwy ei adael mewn man amlwg ynghlwm wrth adeilad neu wrthrych yn y fangre.

6

Yn y rheoliad hwn—

a

nid yw “corff corfforaethol” (“body corporate”) yn cynnwys partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig; a

b

mae cyfeiriadau at gyflwyno’n cynnwys cyfeiriadau at ymadroddion tebyg (megis rhoi neu anfon).

Annotations:
Commencement Information
I42

Rhl. 42 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Diwygiadau canlyniadol ac atodolI4343

Mae Atodlen 6 (diwygiadau canlyniadol ac atodol) yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I43

Rhl. 43 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Darpariaeth drosiannol: tystysgrifauI4444

Mae Atodlen 7 (darpariaethau trosiannol – tystysgrifau) yn cael effaith.

Annotations:
Commencement Information
I44

Rhl. 44 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Darpariaeth drosiannol: lladd-dai (llunwedd, adeiladwaith a chyfarpar)I4545

1

Mae paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â lladd-dy sy’n gweithredu yn union cyn 1 Ionawr 2013, ond nid yw’n gymwys mewn perthynas ag—

a

unrhyw lunwedd neu adeiladwaith newydd mewn lladd-dy o’r fath (neu walfeydd cysylltiedig) a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw; neu

b

unrhyw gyfarpar newydd a ddefnyddir mewn lladd-dy o’r fath ac a roddir ar waith ar ôl y dyddiad hwnnw.

2

Mewn perthynas â lladd-dy y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, tan 8 Rhagfyr 2019—

a

nid yw Erthygl 14(1) ac Atodiad II yn gymwys; a

b

mae Atodlen 8 yn gymwys.

Annotations:
Commencement Information
I45

Rhl. 45 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

DirymiadauI4646

Mae’r offerynnau a’r deddfiadau canlynol wedi eu dirymu mewn perthynas â Chymru—

a

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 199514;

b

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) 199915;

c

rheoliad 10(3) o Reoliadau Deddf Safonau Bwyd 1999 (Darpariaethau Trosiannol a Chanlyniadol ac Arbedion) (Cymru a Lloegr) 200016 a Rhan 3 o Atodlen 8 i’r Rheoliadau hynny; a

d

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) (Diwygio) (Cymru) 200717.

Annotations:
Commencement Information
I46

Rhl. 46 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)

Alun DaviesY Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, un o Weinidogion Cymru