Golwg cyfnod mewn amser fel yr oedd ar 31/12/2020.
Mae newidiadau yn dal heb eu gwneud i Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Mae unrhyw newidiadau sydd wedi cael eu gwneud yn barod gan y tîm yn ymddangos yn y cynnwys a chyfeirir atynt gydag anodiadau.
Nid yw newidiadau ac effeithiau sydd eto i'w gwneud gan y tîm golygyddol ond yn berthnasol wrth edrych ar y fersiwn ddiweddaraf neu fersiwn ragolygol o ddeddfwriaeth. Felly, nid oes modd eu gweld wrth edrych ar ddeddfwriaeth fel y mae ar bwynt penodol mewn amser. Er mwyn gweld yr wybodaeth 'Newidiadau i Ddeddfwriaeth' ar gyfer y ddarpariaeth hon ewch yn ôl i'r fersiwn ddiweddaraf gan ddefnyddio'r opsiynau yn y blwch 'Pa Fersiwn' uchod.
5.—(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 23(2) a 44, ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 ac eithrio o dan dystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y dystysgrif neu’r dystysgrif dros dro honno.
(2) Ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 o dan dystysgrif dros dro onid yw’r person hwnnw yn gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 5 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
6. Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 5 yw—
(a)unrhyw un o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir mewn lladd-dy—
(i)gweithrediad a bennir mewn unrhyw un o’r is-baragraffau (a) i (g) o Erthygl 7(2); a
(ii)pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio; a
(b)goruchwylio lladd anifeiliaid ffwr yn unol ag Erthygl 7(3).
Gwybodaeth Cychwyn
I2Rhl. 6 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
7. Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru tystysgrif—
(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8; a
(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Rhl. 7 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
8. Rhaid i’r ceisydd—
(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif ar gyfer y gweithrediadau canlynol—
(i)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu
(ii)gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;
(b)yn ddarostyngedig i reoliad 44, cyflwyno tystiolaeth o hyfforddiant ac arholi mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif ar eu cyfer;
(c)cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(6);
(d)darparu manylion ysgrifenedig—
(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;
(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu
(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo; ac
(e)talu ffi yn unol â rheoliad 24.
Gwybodaeth Cychwyn
I4Rhl. 8 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
9. Rhaid i’r awdurdod cymwys roi tystysgrif dros dro—
(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 10; a
(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif dros dro.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Rhl. 9 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
10. Rhaid i’r ceisydd—
(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed, oni ofynnir am y dystysgrif dros dro ar gyfer y gweithrediadau canlynol—
(i)trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno; neu
(ii)gefynnu neu godi dofednod byw cyn eu stynio;
(b)cyflwyno tystiolaeth o gofrestru ar gwrs o hyfforddiant mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir tystysgrif dros dro ar eu cyfer;
(c)cyflwyno datganiad ysgrifenedig yn unol ag Erthygl 21(5)(d) a (6);
(d)darparu manylion ysgrifenedig—
(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;
(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu
(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo.
Gwybodaeth Cychwyn
I6Rhl. 10 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
11.—(1) Rhaid i dystysgrif neu dystysgrif dros dro bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y’i rhoddwyd ar eu cyfer.
(2) Ni chaniateir rhoi tystysgrif neu dystysgrif dros dro mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw—
(a)yn achos tystysgrif, y dystiolaeth o hyfforddiant ac arholi a gyflwynwyd gyda’r cais am y dystysgrif yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar; neu
(b)yn achos tystysgrif dros dro, y cwrs hyfforddi y cofrestrodd y ceisydd arno yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.
(3) Bydd tystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddir yn [F1Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon], ar gyfer gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn dystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn rhl. 11(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 5(4); 2020 p. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I7Rhl. 11 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
12. Yn ddarostyngedig i reoliadau 14 a 23(2), ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 13 ac eithrio o dan drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y drwydded honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I8Rhl. 12 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
13. Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn rheoliad 12 yw unrhyw rai o’r gweithrediadau canlynol a gyflawnir yn rhywle ac eithrio mewn lladd-dy—
(a)gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 10 (bwyta gartref yn breifat), gan berson ac eithrio perchennog yr anifail;
(b)gweithrediad a bennir yn unrhyw un o is-baragraffau (b) i (f) o Erthygl 7(2), a gyflawnir at y dibenion a bennir yn Erthygl 11 (cyflenwi yn uniongyrchol feintiau bach o ddofednod, cwningod ac ysgyfarnogod);
(c)mewn perthynas â lladd anifeiliaid carngaled, cilgnowyr, moch, cwningod, dofednod neu ratidau ac eithrio ar gyfer eu bwyta gan bobl—
(i)ffrwyno anifeiliaid at y diben o’u stynio;
(ii)stynio anifeiliaid;
(iii)asesu effeithiolrwydd stynio;
(iv)gefynnu neu godi anifeiliaid a styniwyd, ac eithrio dofednod;
(v)gwaedu anifeiliaid byw; a
(d)pithio anifail a styniwyd ac asesu effeithiolrwydd pithio.
Gwybodaeth Cychwyn
I9Rhl. 13 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
14. Nid yw rheoliad 12 yn gymwys i unrhyw berson—
(a)sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;
(b)sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys, ar yr amod bod cwmpas y dystysgrif neu’r drwydded yn cynnwys y gweithrediad a gyflawnir;
(c)sy’n gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, milfeddyg;
(d)yn ymgymryd â lladd anifail mewn argyfwng;
(e)yn lladd anifail at ddiben ac eithrio diben masnachol;
(f)at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd anifail yn y maes gan ddefnyddio bwled rydd;
(g)at ddibenion heblaw bwyta gan bobl, yn lladd dofednod drwy ysigo gyddfau (pan nad oes dulliau eraill ar gael ar gyfer stynio) mewn mangre sy’n ffurfio rhan o ddaliad amaethyddol y megir y dofednod ynddi;
(h)yn lladd anifail at y diben o ddiboblogi;
(i)yn lladd cywion neu embryonau dros ben mewn gwastraff deorfa;
(j)sy’n filfeddyg yn gweithredu wrth ymarfer ei broffesiwn; neu
(k)yn lladd anifail mewn amgylchiadau sydd y tu allan i gwmpas y Rheoliad UE yn rhinwedd Erthygl 1(3)(a).
Gwybodaeth Cychwyn
I10Rhl. 14 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
15. Rhaid i’r awdurdod cymwys roi a chofrestru trwydded—
(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 16; a
(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad trwydded.
Gwybodaeth Cychwyn
I11Rhl. 15 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
16. Rhaid i’r ceisydd—
(a)peidio â bod yn iau na 18 mlwydd oed;
(b)darparu manylion ysgrifenedig—
(i)os collfarnwyd y ceisydd am unrhyw drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid;
(ii)os gwrthodwyd trwydded i’r ceisydd o dan Ddeddf 1967, Deddf 1974, unrhyw reoliadau a wnaed o dan y naill neu’r llall o’r Deddfau hynny neu Reoliadau 1995 mewn perthynas â lladd anifail neu weithrediad cysylltiedig; neu
(iii)os dirymwyd neu os ataliwyd dros dro unrhyw drwydded o’r fath a fu ganddo;
(c)darparu tystiolaeth ysgrifenedig fod milfeddyg awdurdodedig wedi asesu’r ceisydd ac o’r farn bod y ceisydd—
(i)yn gymwys i gyflawni’r gweithrediad mewn perthynas â’r categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir trwydded ar eu cyfer heb achosi poen, trallod na dioddefaint diangen i anifail, a
(ii)bod ganddo wybodaeth ddigonol o ddarpariaethau’r holl ddeddfwriaeth a chanllawiau perthnasol sy’n ymwneud â’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y ceisir trwydded ar eu cyfer; a
(d)talu ffi yn unol â rheoliad 24.
Gwybodaeth Cychwyn
I12Rhl. 16 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
17.—(1) Rhaid i drwydded bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar y’i rhoddwyd ar eu cyfer.
(2) Ni chaniateir rhoi trwydded mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw’r asesiad y cyfeirir ato yn rheoliad 16(c) yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.
(3) Bydd tystysgrifau neu drwyddedau a roddir yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, ar gyfer gweithrediadau y mae’n rhaid eu trwyddedu yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn drwyddedau a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.
Gwybodaeth Cychwyn
I13Rhl. 17 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
18.—(1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod rhoi tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded os bodlonir ef—
(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliadau 8, 10 neu 16 (yn ôl fel y digwydd); neu
(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a
(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I14Rhl. 18 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
19.—(1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro F2... neu drwydded os bodlonir ef—
(a)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi methu â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
(b)nad yw’r deiliad bellach yn berson addas a phriodol i ddal y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded;
(c)nad yw’r deiliad yn gymwys, neu nad yw bellach yn gymwys, i gyflawni’r gweithrediadau a awdurdodir gan y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded; neu
(d)bod deiliad y dystysgrif, y dystysgrif dros dro neu’r drwydded wedi ei gollfarnu am drosedd sy’n ymwneud â lles anifeiliaid.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi rhesymau am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad;
(b)datgan pa bryd y mae’r ataliad dros dro neu’r dirymiad yn cael effaith ac, yn achos ataliad dros dro, datgan ar ba ddyddiad neu ddigwyddiad y bydd yn peidio â chael effaith; ac
(c)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
(3) Rhaid i unrhyw berson, yr ataliwyd dros dro neu y dirymwyd ei dystysgrif, ei dystysgrif dros dro neu’i drwydded, boed yr ataliad dros dro neu’r dirymiad hwnnw yn destun apêl yn unol â rheoliad 22 ai peidio, ildio’r dystysgrif, tystysgrif dros dro neu’r drwydded honno i’r awdurdod cymwys o fewn 14 diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad sy’n rhoi gwybod i’r person hwnnw am yr ataliad dros dro neu’r dirymiad.
Diwygiadau Testunol
F2Geiriau yn rhl. 19(1) wedi eu hepgor (31.12.2020) yn rhinwedd Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 5(5); 2020 p. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I15Rhl. 19 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
20. Rhaid i’r awdurdod cymwys addasu tystysgrif neu drwydded mewn perthynas â gweithrediad, y categori o anifail neu (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar yn unol â chais gan geisydd—
(a)os yw’r ceisydd yn bodloni’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; a
(b)os bodlonir yr awdurdod cymwys fod y ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesir.
Gwybodaeth Cychwyn
I16Rhl. 20 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
21.—(1) Caiff yr awdurdod cymwys, drwy hysbysiad ysgrifenedig, wrthod addasu tystysgrif neu drwydded os bodlonir ef—
(a)bod y ceisydd wedi methu â bodloni unrhyw un o’r amodau yn rheoliad 8 neu 16 (yn ôl fel y digwydd) mewn perthynas â’r addasiad; neu
(b)nad yw’r ceisydd yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif neu drwydded, fel y’i haddesid.
(2) Rhaid i’r hysbysiad—
(a)rhoi rhesymau am y gwrthodiad; a
(b)rhoi manylion am yr hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.
Gwybodaeth Cychwyn
I17Rhl. 21 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
22.—(1) Caiff person a dramgwyddir gan benderfyniad yr awdurdod cymwys i wrthod, atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded, neu wrthod addasu tystysgrif neu drwydded, apelio yn erbyn y penderfyniad.
(2) Mae’r hawl i apelio i Dribiwnlys yr Haen Gyntaf.
(3) Ni fydd penderfyniad i atal dros dro neu ddirymu tystysgrif, tystysgrif dros dro neu drwydded yn cael ei atal dros dro tra bo apêl yn yr arfaeth, oni fydd y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn gorchymyn yn wahanol.
(4) Yn dilyn apêl, caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf naill ai wrthdroi neu gadarnhau’r penderfyniad, gydag addasiadau neu hebddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I18Rhl. 22 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
23.—(1) Pan ddaw’r Rheoliadau hyn i rym, bydd trwydded LlACL a oedd yn parhau mewn grym yn union cyn 20 Mai 2014 yn parhau mewn bodolaeth fel cymhwyster cyfwerth â thystysgrif yn unol ag Erthygl 21(7).
(2) Caiff deiliad trwydded LlACL gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 neu 13 heb ddal tystysgrif neu drwydded a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys ar yr amod bod y deiliad trwydded LlACL, erbyn 8 Rhagfyr 2015—
(a)yn cofrestru’r drwydded LlACL gyda’r awdurdod cymwys, fel tystysgrif; a
(b)yn talu ffi yn unol â rheoliad 24.
Gwybodaeth Cychwyn
I19Rhl. 23 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
24.—(1) Mewn perthynas â chais o fath a ddisgrifir yng ngholofn 1 o’r Tabl, rhaid i’r ceisydd dalu i’r Asiantaeth Safonau Bwyd y ffi a bennir yng ngholofn 2 mewn perthynas â’r math hwnnw o gais.
Colofn 1 Math o gais | Colofn 2 Ffi (£) |
---|---|
Cais am dystysgrif | 25 |
Cais am gofrestru trwydded LlACL fel tystysgrif | 25 |
Cais am addasu tystysgrif | 8 |
Cais am drwydded | 25 |
Cais am addasu trwydded | 8 |
(2) Mewn perthynas ag asesiad o dan reoliad 16(c) gan filfeddyg awdurdodedig sy’n arfer swyddogaethau ar ran Gweinidogion Cymru, rhaid i’r ceisydd dalu ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff (3) i Weinidogion Cymru.
(3) Y ffi y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw—
(a)£76 am yr hanner awr neu ran o hanner awr cyntaf a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig;
(b)£21 am bob hanner awr neu ran o hanner awr ychwanegol a dreulir gan filfeddyg awdurdodedig ar asesiad, gan gynnwys amser a dreulir ar y ddogfennaeth gysylltiedig; ac
(c)gwir gost teithio, llety ac unrhyw dreuliau eraill yr eir iddynt yn rhesymol gan y milfeddyg awdurdodedig.
Gwybodaeth Cychwyn
I20Rhl. 24 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Point in Time: This becomes available after navigating to view revised legislation as it stood at a certain point in time via Advanced Features > Show Timeline of Changes or via a point in time advanced search. A point in time version is only available in English.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: