RHAN 5Troseddau a chosbau

Troseddau

30.—(1Cyflawnir trosedd os yw person yn torri, neu’n peri neu’n caniatáu i berson dorri—

(a)rheoliad 5(1) neu (2) (gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro);

(b)rheoliad 12 (gofyniad i gael trwydded);

(c)unrhyw un o baragraffau 3 i 32 o Atodlen 1 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd-dai);

(d)unrhyw un o baragraffau 4 i 44 o Atodlen 2 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid ac eithrio mewn lladd-dai);

(e)unrhyw un o baragraffau 2 i 8 o Atodlen 3 (gofynion ychwanegol ar gyfer lladd anifeiliaid yn unol â defodau crefyddol);

(f)paragraff 4 neu 5 o Atodlen 4 (lladd anifeiliaid ac eithrio’r rhai y mae’r Rheoliad UE yn gymwys iddynt);

(g)darpariaeth o’r Rheoliad UE a bennir yn Atodlen 5, ac eithrio pan nad oes angen cydymffurfio â’r ddarpariaeth, yn rhinwedd—

(i)esemptiad neu ddarpariaeth drosiannol a bennir yn y Rheoliad UE; neu

(ii)rhanddirymiad a ganiateir gan yr awdurdod cymwys o dan Erthygl 18(3) mewn perthynas â gweithrediad diboblogi; neu

(h)tan 8 Rhagfyr 2019, unrhyw un o baragraffau 1 i 7 o Atodlen 8, i’r graddau y maent yn gymwys yn rhinwedd rheoliad 45 (darpariaeth drosiannol: lladd-dai).

(2Cyflawnir trosedd os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi o dan reoliad 38.

Troseddau rhwystro

31.  Mae’n drosedd—

(a)rhwystro’n fwriadol unrhyw berson sy’n ymgymryd â gweithredu’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;

(b)heb esgus rhesymol, i fethu â rhoi unrhyw gymorth neu wybodaeth i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn yn rhesymol am y cyfryw gymorth neu wybodaeth;

(c)rhoi i unrhyw berson o’r fath unrhyw wybodaeth gan wybod ei bod yn anwir neu’n gamarweiniol; neu

(d)methu â dangos dogfen neu gofnod i unrhyw berson o’r fath sy’n gofyn am weld y cyfryw ddogfen neu gofnod.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

32.—(1Pan fo corff corfforaethol yn euog o drosedd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y drosedd honno wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad, neu’n briodoladwy i unrhyw esgeulustod, ar ran unrhyw un o’r canlynol—

(a)cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu

(b)person a oedd yn honni gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath,

bydd y person hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd.

(2Ym mharagraff (1) ystyr “cyfarwyddwr” (“director”), mewn perthynas â chorff corfforaethol y rheolir ei faterion gan ei aelodau, yw aelod o’r corff corfforaethol.

Cosbau

33.—(1Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30 neu 31, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, ac eithrio fel y pennir ym mharagraff (2).

(2Mae person sy’n euog o drosedd o dan reoliad 30(1)(g) mewn perthynas â thorri Erthygl 3, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na thri mis.