ATODLEN 1GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD-DAI

RHAN 2Llunwedd, adeiladwaith a chyfarpar lladd-dai

Gwalfeydd mewn caeauI16

Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau bod gwalfa mewn cae—

a

yn cael ei chynnal mewn cyflwr a fydd yn sicrhau na fydd anifail mewn perygl o niwed corfforol neu gemegol neu niwed arall i’w iechyd; a

b

bod ynddi reseli, mansieri neu gyfarpar arall, digonol o ran nifer a maint i fwydo’r anifeiliaid a gaethiwir ynddi, wedi eu gosod yn barhaol os yw’n ymarferol, a’u hadeiladu a’u lleoli fel eu bod o fewn cyrraedd yn hwylus i’r anifeiliaid, yn hawdd i’w llenwi ac yn anodd i’w difwyno.