ATODLEN 1GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD-DAI
RHAN 3Gweithrediadau trin
Gofynion cyffredinolI110
Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau—
a
y diogelir pob anifail rhag effeithiau amodau tywydd garw ac y darperir awyru digonol ar ei gyfer;
b
os yw anifail wedi dioddef tymheredd uchel mewn tywydd llaith, y defnyddir dull priodol i’w oeri;
c
tra’n aros i ladd anifail sy’n sâl neu’n anabl, y cedwir yr anifail hwnnw ar wahân i unrhyw anifail nad yw’n sâl neu’n anabl; a
d
nad oes neb yn llusgo anifail sydd wedi ei stynio neu’i ladd dros unrhyw anifail arall nad yw wedi ei stynio neu’i ladd.
Arolygu anifeiliaidI211
Rhaid i weithredwr y busnes sicrhau yr arolygir cyflwr pob anifail a stad ei iechyd, o leiaf bob bore a min nos, gan weithredwr y busnes neu gan berson cymwys sy’n gweithredu ar ran gweithredwr y busnes.
Anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint ac anifeiliaid nas diddyfnwydI312
Heb leihau effaith paragraff 1.5 ac 1.11 o Atodiad III, rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid neu ddarparu gwalfeydd iddynt sicrhau bod anifeiliaid fel a ganlyn yn cael eu lladd ar unwaith—
a
anifeiliaid sydd wedi profi poen neu ddioddefaint wrth eu cludo neu ar ôl cyrraedd; a
b
anifeiliaid sy’n rhy ifanc i gymryd bwyd anifeiliaid solet.
Anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynwysyddionI413
Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud neu ddarparu gwalfeydd i anifeiliaid a ddanfonir ac eithrio mewn cynhwysydd sicrhau—
a
y cymerir gofal i beidio â dychryn, cynhyrfu na cham-drin anifail;
b
na chaiff unrhyw anifail ei droi ben i waered; ac
c
nad eir ag unrhyw anifail i’r man lladd oni ellir ei ladd heb oedi.
Gyrru anifeiliaidI514
Ni chaiff neb arwain na gyrru anifail dros dir neu lawr y mae ei natur neu’i gyflwr yn debygol o beri i’r anifail lithro neu syrthio.
Symud anifeiliaid â gofalI615
Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod pob anifail yn cael ei symud â gofal, a phan fo angen, bod anifeiliaid yn cael eu harwain fesul un.
Offerynnau ar gyfer arwain anifeiliaidI716
Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â symud anifeiliaid sicrhau bod unrhyw offeryn a fwriedir ar gyfer arwain anifail yn cael ei ddefnyddio at y diben hwnnw’n unig, a hynny am gyfnodau byr yn unig, ac ar anifeiliaid unigol.
Gwalfeydd ar gyfer anifeiliaidI817
Rhaid i weithredwr y busnes ac unrhyw berson sy’n ymwneud â darparu gwalfeydd i anifeiliaid sicrhau y darperir bwyd iddynt mewn ffordd a fydd yn caniatáu i’r anifeiliaid fwydo heb darfu arnynt yn ddiangen.