ATODLEN 2GOFYNION YCHWANEGOL AR GYFER LLADD ANIFEILIAID AC EITHRIO MEWN LLADD-DAI
RHAN 5Gweithrediadau stynio a lladd
Ergyd tarawol i’r pen
36.
(1)
Ni chaiff neb stynio anifail gan ddefnyddio ergyd tarawol anfecanyddol i’r pen.
(2)
Ond nid yw’r gwaharddiad yn is-baragraff (1) yn gymwys i gwningod, ar yr amod y cyflawnir y gweithrediad mewn ffordd sy’n peri bod y gwningen yn anymwybodol ar unwaith ac yn parhau felly hyd nes bo’n farw.