ATODLEN 7DARPARIAETHAU TROSIANNOL (TYSTYSGRIFAU)
Gweithrediadau mewn lladd-dy yn union cyn 1 Ionawr 2013I11
1
Caiff person gyflawni gweithrediad a bennir yn is-baragraff (2) ar gategori o anifail mewn lladd-dy heb fod yn ddeiliad tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro os oedd y person hwnnw’n ymwneud â chyflawni’r gweithrediad hwnnw ar y categori hwnnw o anifail yn union cyn 1 Ionawr 2013.
2
Y gweithrediadau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) yw—
a
trin a gofalu am anifeiliaid cyn eu ffrwyno;
b
lladd anifail gan ddefnyddio bwled rydd yn y maes; ac
c
gefynnu dofednod cyn eu stynio.
3
Mae is-baragraff (1) yn peidio â bod yn gymwys ar y dyddiad y mae’r awdurdod cymwys yn rhoi ac yn cofrestru (neu’n gwrthod rhoi) tystysgrif neu dystysgrif dros dro i’r person hwnnw mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw ar y categori hwnnw o anifail, neu ar 8 Rhagfyr 2015, pa un bynnag fo’r cynharaf.
Gweithdrefn symlach ar gyfer personau sydd â thair blynedd o brofiad proffesiynolI22
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i berson sy’n gwneud cais am dystysgrif cyn 8 Rhagfyr 2015 ac, ar y dyddiad y gwneir y cais, sydd ag o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail a (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir y dystysgrif mewn cysylltiad â hwy.
2
Nid yw’n ofynnol bod person y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo yn cydymffurfio â rheoliad 8(b) os yw’r person hwnnw—
a
yn dangos, er boddhad i’r awdurdod cymwys, bod ganddo, ar y dyddiad y gwneir y cais, o leiaf dair blynedd o brofiad proffesiynol mewn perthynas â’r gweithrediad, y categori o anifail a (pan fo’n briodol) y math o gyfarpar y ceisir y dystysgrif mewn cysylltiad â hwy; a
b
yn darparu datganiad ysgrifenedig gan filfeddyg, bod y person hwnnw, ym marn y milfeddyg, yn berson addas a phriodol i fod yn ddeiliad tystysgrif.