xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CTystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau

PENNOD 1LL+CTystysgrifau a thystysgrifau dros dro

Rhoi tystysgrifau a thystysgrifau dros droLL+C

11.—(1Rhaid i dystysgrif neu dystysgrif dros dro bennu’r gweithrediad, y categori o anifail ac (os yw’n briodol) y math o gyfarpar, y’i rhoddwyd ar eu cyfer.

(2Ni chaniateir rhoi tystysgrif neu dystysgrif dros dro mewn perthynas â gweithrediad, categori o anifail ac (os yw’n briodol) math o gyfarpar onid yw—

(a)yn achos tystysgrif, y dystiolaeth o hyfforddiant ac arholi a gyflwynwyd gyda’r cais am y dystysgrif yn ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar; neu

(b)yn achos tystysgrif dros dro, y cwrs hyfforddi y cofrestrodd y ceisydd arno yn darparu hyfforddiant sy’n ymwneud â’r gweithrediad hwnnw, y categori hwnnw o anifail a’r math hwnnw o gyfarpar.

(3Bydd tystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddir yn [F1Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon], ar gyfer gweithrediadau y mae tystysgrif neu dystysgrif dros dro yn ofynnol ar eu cyfer yng Nghymru o dan y Rheoliadau hyn, yn cael effaith yng Nghymru fel pe baent yn dystysgrifau neu dystysgrifau dros dro a roddwyd o dan y Rheoliadau hyn.

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn rhl. 11(3) wedi eu hamnewid (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 5(4); 2020 p. 1, Atod. 5 para. 1(1)

Gwybodaeth Cychwyn

I1Rhl. 11 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)