35.—(1) Caiff arolygydd, ar ôl rhoi cyfnod rhesymol o rybudd, fynd i mewn i unrhyw fangre ar adeg resymol o’r dydd at y diben o weithredu neu orfodi’r Rheoliad UE a’r Rheoliadau hyn; ac yn y Rhan hon, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw dir, adeilad, sied, lloc, daliedydd neu gerbyd o unrhyw ddisgrifiad.
(2) Nid yw’r gofyniad i roi rhybudd yn gymwys—
(a)pan fo’r gofyniad wedi ei hepgor gan y meddiannydd;
(b)pan fo ymdrechion rhesymol i gytuno ar apwyntiad wedi methu;
(c)pan fo arolygydd yn amau’n rhesymol y methir â chydymffurfio â’r Rheoliad UE neu’r Rheoliadau hyn;
(d)pan fo arolygydd yn credu’n rhesymol y byddai rhoi rhybudd yn tanseilio’r diben o fynd i mewn; neu
(e)mewn argyfwng, pan yw’n ofynnol mynd i mewn ar frys.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw fangre a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd breifat, oni roddir yr hawl i fynd i mewn gan warant a roddwyd o dan reoliad 36.
(4) Rhaid i arolygydd, os gofynnir iddo wneud hynny, ddangos dogfen awdurdodi sydd wedi ei dilysu’n briodol.
(5) Rhaid i arolygydd sy’n mynd i mewn i unrhyw fangre wag adael y fangre honno wedi ei diogelu mor effeithiol rhag mynediad diawdurdod ag yr oedd cyn mynd i mewn iddi.
[F1(6) Caiff arolygydd fynd i mewn yng nghwmni pa bynnag bersonau eraill yr ystyria’r arolygydd yn angenrheidiol.]
Diwygiadau Testunol
F1Rhl. 35(6) rhodder (31.12.2020) gan Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2019 (O.S. 2019/684), rhlau. 1(2), 5(6); 2020 p. 1, Atod. 5 para. 1(1)
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 35 mewn grym ar 20.5.2014, gweler rhl. 1(c)