Terfyn amser ar gyfer erlyniadau
41.—(1) Er gwaethaf adran 127(1) o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980(1), caiff llys ynadon roi unrhyw wybodaeth ar brawf sy’n ymwneud â throsedd o dan y Rheoliadau hyn os rhoddir yr wybodaeth gerbron—
(a)cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflawni’r drosedd; a
(b)cyn diwedd y cyfnod o chwe mis sy’n cychwyn gyda dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth a ystyrir yn ddigonol gan yr erlynydd i gyfiawnhau dwyn yr achos.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b)—
(a)mae tystysgrif a lofnodwyd gan neu ar ran yr erlynydd, ac yn datgan y dyddiad y daeth yr erlynydd i wybod am dystiolaeth o’r fath yn dystiolaeth derfynol o’r ffaith honno; a
(b)rhaid trin tystysgrif sy’n datgan y mater hwnnw ac yn honni ei bod wedi ei llofnodi felly fel pe bai wedi ei llofnodi felly, oni phrofir i’r gwrthwyneb.