RHAN 2Tystysgrifau, tystysgrifau dros dro a thrwyddedau

PENNOD 1Tystysgrifau a thystysgrifau dros dro

Gofyniad i gael tystysgrif neu dystysgrif dros dro5.

(1)

Yn ddarostyngedig i reoliadau 23(2) a 44, ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 ac eithrio o dan dystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys neu dystysgrif dros dro, a hynny i’r graddau a awdurdodir gan y dystysgrif neu’r dystysgrif dros dro honno.

(2)

Ni chaiff neb gyflawni gweithrediad a bennir yn rheoliad 6 o dan dystysgrif dros dro onid yw’r person hwnnw yn gweithio ym mhresenoldeb, ac o dan oruchwyliaeth uniongyrchol, person sy’n dal tystysgrif a gofrestrwyd gyda’r awdurdod cymwys mewn perthynas â’r gweithrediad hwnnw.