Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015

Enwi a chychwyn

1.—(1Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllun Digolledu a Chynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2015.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Mawrth 2015.

(3Daw’r diwygiadau a wneir gan y darpariaethau canlynol i rym ar 1 Ebrill 2015—

(a)erthygl 2; a

(b)paragraffau 5 a 6 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn ac erthygl 3 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.

(4Mae’r diwygiadau a wneir gan baragraffau 1, 2(1) a (3), 3(1) a (2) a 4 o Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn, a chan erthygl 3 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny, yn cael effaith o 1 Ebrill 2014 ymlaen(1).

Diwygio Gorchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

2.  Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Digolledu’r Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(2) wedi ei diwygio yn unol ag Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn.

Diwygio Gorchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007

3.  Mae Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007(3) wedi ei diwygio yn unol ag Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn.

Leighton Andrews

Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, un o Weinidogion Cymru

30 Mawrth 2015