2015 Rhif 1018 (Cy. 72)
Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) a 17(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 19841, ac ar ôl ymgynghori â’r cyrff cynrychioliadol hynny y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—
Enwi, cychwyn a dehongli
1
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Ebrill 2015 a’u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015.
2
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “cerbytffordd”, “llain galed” a “llain ymyl” yr un ystyr â “carriageway”, “hard shoulder” a “verge” yn Rheoliadau 1982;
ystyr “yr M4” (“the M4”) yw Traffordd yr M4 o Lundain i Dde Cymru;
ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 19822; ac
ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Arwyddion Traffig 20023.
Cymhwyso terfyn cyflymder amrywiadwy3
1
Ni chaiff neb yrru cerbyd ar ran o ffordd sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy yn gyflymach na’r hyn a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder.
2
Mae rhan o ffordd yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy mewn perthynas â cherbyd sy’n cael ei yrru arni—
a
os yw’r ffordd wedi ei phennu yn yr Atodlen;
b
os yw’r cerbyd wedi pasio arwydd terfyn cyflymder; ac
c
os nad yw’r cerbyd wedi pasio—
i
arwydd terfyn cyflymder arall sy’n dangos terfyn cyflymder gwahanol; neu
ii
arwydd traffig sy’n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.
3
Mewn perthynas â cherbyd, y terfyn cyflymder a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder yw’r cyflymder a ddangosir ar yr adeg y mae’r cerbyd yn pasio’r arwydd, neu, os yw’n uwch na hynny, y terfyn cyflymder a ddangoswyd gan yr arwydd ddeng eiliad cyn i’r cerbyd basio’r arwydd.
4
At ddiben y rheoliad hwn, bernir nad yw arwydd terfyn cyflymder yn dangos unrhyw derfyn cyflymder os oedd yr arwydd, ddeng eiliad cyn i’r cerbyd ei basio, wedi dangos nad oedd terfyn cyflymder neu wedi dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.
5
Yn y rheoliad hwn—
ystyr “arwydd terfyn cyflymder” (“speed limit sign”), mewn perthynas â cherbyd, yw arwydd traffig o’r math a ddangosir yn niagram 670 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—
- a
a roddir ar unrhyw ran o ffordd a bennir yn yr Atodlen, neu gerllaw iddi; a
- b
a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni;
- a
mae “ffordd” (“road”) yn cynnwys y llain galed a’r llain ymyl gyfagos; ac
mae i “terfyn cyflymder cenedlaethol” yr ystyr a roddir i “national speed limit” gan reoliad 5(2) o Reoliadau 2002 ac ystyr arwydd traffig sy’n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym yw arwydd traffig o’r math a ddangosir yn niagram 671 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—
- a
a roddir ar ffordd neu gerllaw iddi; a
- b
a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni.
- a
Dirymu4
Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 20114 drwy hyn wedi eu dirymu.
YR ATODLENFFYRDD PENODEDIG
Y ffyrdd penodedig yw—
a
Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 o bwynt sy’n 675 o fetrau i’r gorllewin o linell ganol trosbont Trefesgob i Lanfarthin hyd at bwynt sy’n 22 o fetrau i’r gorllewin o ben gorllewinol y parapet ar danbont Forge Road.
b
Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4 o bwynt sy’n 39 o fetrau i’r gorllewin o ben gorllewinol y parapet ar danbont Forge Road hyd at bwynt sy’n 265 o fetrau i’r dwyrain o ben dwyreiniol parapet wal gynnal ffordd ymuno tua’r dwyrain yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.
c
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4 hyd at bwynt sy’n 123 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.
d
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin, gan gynnwys y lôn i droi i’r chwith, wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at bwynt sy’n 114 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.
e
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o bwynt sy’n 105 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4.
f
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596.
g
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 o bwynt sy’n 94 o fetrau i’r dwyrain o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.
h
Y darn o’r ffordd gyswllt ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25A (Grove Park) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 i’r man lle y mae’n cysylltu â’r A4042.
i
Y darn o’r ffordd gyswllt ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25A (Grove Park) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â’r A4042 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.
j
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain, gan gynnwys y lôn i droi i’r chwith, wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.
k
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.
l
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.
m
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o bwynt sy’n 30 metr i’r gorllewin o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4.
n
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.
o
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.
p
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o bwynt sy’n 80 metr i’r de-orllewin o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.
q
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o bwynt sy’n 103 o fetrau i’r dwyrain o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4.
r
Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467. Mae hyn yn cynnwys y darn o lôn ar wahân y ffordd ymadael tua’r gorllewin sy’n ymestyn o bwynt lle y mae’n gwyro o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin hyd at bwynt sy’n gyfagos ar draws i’r man lle y mae’r ffordd ymadael tua’r gorllewin yn cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467.
s
Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o bwynt sy’n 392 o fetrau i’r gogledd o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)