Search Legislation

Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1018 (Cy. 72)

Traffig Ffyrdd, Cymru

Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015

Gwnaed

30 Mawrth 2015

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

31 Mawrth 2015

Yn dod i rym

21 Ebrill 2015

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 17(2) a 17(3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984(1), ac ar ôl ymgynghori â’r cyrff cynrychioliadol hynny y tybiwyd eu bod yn briodol yn unol ag adran 134(2) o’r Ddeddf honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn—

Enwi, cychwyn a dehongli

1.  Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Ebrill 2015 a’u henw yw Rheoliadau Traffordd yr M4 (Man i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2015.

2.  Yn y Rheoliadau hyn—

mae i “cerbytffordd”, “llain galed” a “llain ymyl” yr un ystyr â “carriageway”, “hard shoulder” a “verge” yn Rheoliadau 1982;

ystyr “yr M4” (“the M4”) yw Traffordd yr M4 o Lundain i Dde Cymru;

ystyr “Rheoliadau 1982” (“the 1982 Regulations”) yw Rheoliadau Traffig Traffyrdd (Cymru a Lloegr) 1982(2); ac

ystyr “Rheoliadau 2002” (“the 2002 Regulations”) yw Rheoliadau Arwyddion Traffig 2002(3).

Cymhwyso terfyn cyflymder amrywiadwy

3.—(1Ni chaiff neb yrru cerbyd ar ran o ffordd sy’n ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy yn gyflymach na’r hyn a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder.

(2Mae rhan o ffordd yn ddarostyngedig i derfyn cyflymder amrywiadwy mewn perthynas â cherbyd sy’n cael ei yrru arni—

(a)os yw’r ffordd wedi ei phennu yn yr Atodlen;

(b)os yw’r cerbyd wedi pasio arwydd terfyn cyflymder; ac

(c)os nad yw’r cerbyd wedi pasio—

(i)arwydd terfyn cyflymder arall sy’n dangos terfyn cyflymder gwahanol; neu

(ii)arwydd traffig sy’n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.

(3Mewn perthynas â cherbyd, y terfyn cyflymder a ddangosir gan arwydd terfyn cyflymder yw’r cyflymder a ddangosir ar yr adeg y mae’r cerbyd yn pasio’r arwydd, neu, os yw’n uwch na hynny, y terfyn cyflymder a ddangoswyd gan yr arwydd ddeng eiliad cyn i’r cerbyd basio’r arwydd.

(4At ddiben y rheoliad hwn, bernir nad yw arwydd terfyn cyflymder yn dangos unrhyw derfyn cyflymder os oedd yr arwydd, ddeng eiliad cyn i’r cerbyd ei basio, wedi dangos nad oedd terfyn cyflymder neu wedi dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym.

(5Yn y rheoliad hwn—

ystyr “arwydd terfyn cyflymder” (“speed limit sign”), mewn perthynas â cherbyd, yw arwydd traffig o’r math a ddangosir yn niagram 670 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—

(a)

a roddir ar unrhyw ran o ffordd a bennir yn yr Atodlen, neu gerllaw iddi; a

(b)

a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni;

mae “ffordd” (“road”) yn cynnwys y llain galed a’r llain ymyl gyfagos; ac

mae i “terfyn cyflymder cenedlaethol” yr ystyr a roddir i “national speed limit” gan reoliad 5(2) o Reoliadau 2002 ac ystyr arwydd traffig sy’n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol mewn grym yw arwydd traffig o’r math a ddangosir yn niagram 671 yn Atodlen 2 i Reoliadau 2002, sef arwydd—

(a)

a roddir ar ffordd neu gerllaw iddi; a

(b)

a anelir at draffig ar y gerbytffordd y gyrrir y cerbyd arni.

Dirymu

4.  Mae Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011(4) drwy hyn wedi eu dirymu.

Edwina Hart

Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, un o Weinidogion Cymru

30 Mawrth 2015

Erthygl 3(2)(a)

YR ATODLENFFYRDD PENODEDIG

Y ffyrdd penodedig yw—

(a)Y darn o gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 o bwynt sy’n 675 o fetrau i’r gorllewin o linell ganol trosbont Trefesgob i Lanfarthin hyd at bwynt sy’n 22 o fetrau i’r gorllewin o ben gorllewinol y parapet ar danbont Forge Road.

(b)Y darn o gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4 o bwynt sy’n 39 o fetrau i’r gorllewin o ben gorllewinol y parapet ar danbont Forge Road hyd at bwynt sy’n 265 o fetrau i’r dwyrain o ben dwyreiniol parapet wal gynnal ffordd ymuno tua’r dwyrain yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.

(c)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4 hyd at bwynt sy’n 123 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.

(d)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin, gan gynnwys y lôn i droi i’r chwith, wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at bwynt sy’n 114 o fetrau i’r dwyrain o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra.

(e)Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 24 (Coldra) yr M4 o bwynt sy’n 105 o fetrau i’r gorllewin o’i chyffordd â cherbytffordd gylchredol yr A48/A449 Cyfnewidfa Coldra hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4.

(f)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596.

(g)Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25 (Caerllion) yr M4 o bwynt sy’n 94 o fetrau i’r dwyrain o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Caerllion y B4596 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.

(h)Y darn o’r ffordd gyswllt ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 25A (Grove Park) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 i’r man lle y mae’n cysylltu â’r A4042.

(i)Y darn o’r ffordd gyswllt ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 25A (Grove Park) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â’r A4042 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.

(j)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain, gan gynnwys y lôn i droi i’r chwith, wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.

(k)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051.

(l)Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.

(m)Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 26 (Malpas) yr M4 o bwynt sy’n 30 metr i’r gorllewin o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan Malpas yr A4051 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4.

(n)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.

(o)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591.

(p)Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o bwynt sy’n 80 metr i’r de-orllewin o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.

(q)Y darn o’r ffordd ymuno tua’r gorllewin wrth gyffordd 27 (High Cross) yr M4 o bwynt sy’n 103 o fetrau i’r dwyrain o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan High Cross y B4591 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4.

(r)Y darn o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o’r man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r gorllewin yr M4 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467. Mae hyn yn cynnwys y darn o lôn ar wahân y ffordd ymadael tua’r gorllewin sy’n ymestyn o bwynt lle y mae’n gwyro o’r ffordd ymadael tua’r gorllewin hyd at bwynt sy’n gyfagos ar draws i’r man lle y mae’r ffordd ymadael tua’r gorllewin yn cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467.

(s)Y darn o’r ffordd ymuno tua’r dwyrain wrth gyffordd 28 (Parc Tredegar) yr M4 o bwynt sy’n 392 o fetrau i’r gogledd o’r man lle y mae’n cysylltu â cherbytffordd gylchredol cylchfan yr A48/A467 hyd at y man lle y mae’n cysylltu â phrif gerbytffordd tua’r dwyrain yr M4.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Gweinidogion Cymru sydd â’r pŵer i wneud rheoliadau mewn cysylltiad â defnyddio ffyrdd arbennig o dan adran 17(2) a (3) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 (ac eithrio mewn cysylltiad â ffyrdd arbennig yn gyffredinol) i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru.

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pŵer uchod, yn gwneud y Rheoliadau hyn sy’n gwneud darpariaeth ar gyfer terfynau cyflymder amrywiadwy ar y ffyrdd a bennir yn yr Atodlen.

Pan fo arwyddion terfyn cyflymder amrywiadwy yn weithredol, ni chaniateir i gerbyd gael ei yrru’n gyflymach na’r cyflymder uchaf a ddangosir ar bob arwydd terfyn cyflymder y mae’r cerbyd yn ei basio hyd nes y bydd yn pasio arwydd sy’n dangos bod y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys neu hyd nes y bydd y cerbyd yn ymadael â’r ffyrdd y mae’r Rheoliadau yn berthnasol iddynt. Pan fo terfyn cyflymder yn newid mewn llai na 10 eiliad cyn i gerbyd basio’r arwydd, a phan fo’r arwydd wedi dangos terfyn cyflymder uwch, mae’r Rheoliadau yn caniatáu i yrrwr fynd mor gyflym â’r terfyn cyflymder uchaf sy’n gymwys cyn y newid. Pan fo’r arwydd terfyn cyflymder yn dangos terfyn cyflymder pan fydd cerbyd yn ei basio ond yn llai na 10 eiliad cyn hynny nid oedd yn dangos unrhyw derfyn cyflymder neu roedd y terfyn cyflymder cenedlaethol yn gymwys, bernir nad yw’r arwydd yn dangos unrhyw derfyn cyflymder i’r cerbyd sy’n ei basio.

Mae’n drosedd i ddefnyddio ffordd arbennig yn groes i reoliadau a wnaed o dan adran 17(2) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.

Mae’r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Traffordd yr M4 (O Fan i’r Gorllewin o Gyffordd 23A (Magwyr) i Fan i’r Dwyrain o Gyffordd 29 (Cas-bach)) (Terfynau Cyflymder Amrywiadwy) 2011 (O.S. 2011 Rhif 94 (Cy. 19)).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.

(1)

1984 p. 27. Yn rhinwedd erthygl 2 o O.S. 1999/672 ac Atodlen 1 iddo, ac adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraff 30 o Atodlen 11 iddi, mae’r pwerau hyn yn arferadwy bellach gan Weinidogion Cymru o ran Cymru.

(3)

Rhan 1 o O.S. 2002/3113, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2005/1670; mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources