2015 Rhif 1026 (Cy. 75)

Tai, Cymru

Gorchymyn Rheoleiddio Tai Rhent Preifat (Dynodi Awdurdod Trwyddedu) (Cymru) 2015

Gwnaed

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adran 3(1)(a) o Ddeddf Tai (Cymru) 20141 (“y Ddeddf”).

Yn unol ag adran 3(4) o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chyngor Sir Dinas a Sir Caerdydd a’r cyfryw bersonau eraill yr oeddent yn eu hystyried yn briodol cyn gwneud y Gorchymyn hwn.

Yn unol ag adran 142(3)(a) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a chymeradwywyd ef ganddo drwy benderfyniad.