RHAN BPANELAU TRIBIWNLYS

Sefydlu panelau tribiwnlys8.

(1)

Penodir panelau tribiwnlys, sy’n arfer swyddogaethau’r Tribiwnlys o dan y Rheolau hyn, gan y Llywydd o dan reol 9.

(2)

Byddant yn eistedd ar yr adegau, ac yn y mannau, sy’n cael eu penderfynu o bryd i’w gilydd gan y Llywydd.

Aelodaeth panel tribiwnlys9.

(1)

Yn ddarostyngedig i reol 39(5), rhaid i banel tribiwnlys gael ei gyfansoddi o dri aelod o’r Tribiwnlys, sef—

(a)

Cadeirydd y panel, a

(b)

dau aelod arall.

(2)

Rhaid i aelodau’r panel tribiwnlys, a Chadeirydd y panel, gael eu penodi gan y Llywydd; ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (6).

(3)

Rhaid i’r Cadeirydd fod yn naill ai’r Llywydd neu’n aelod arall o’r Tribiwnlys sydd wedi ei ymgymhwyso yn y gyfraith.

(4)

Rhaid i’r ddau aelod arall gynnwys o leiaf un aelod lleyg o’r Tribiwnlys.

(5)

Rhaid i’r Llywydd arfer y pŵer o dan baragraff (2) gyda golwg ar osgoi unrhyw wrthdrawiad rhwng buddiant unrhyw aelod o’r panel sydd i wrando achos a dyletswydd y Tribiwnlys i drin yr achos hwnnw yn unol â’r amcan pennaf.

(6)

Os bydd amgylchiadau a fyddai, yn unol â pharagraff (5) yn gwahardd y Llywydd rhag bod yn aelod o banel, rhaid i’r Llywydd ystyried a yw’r amgylchiadau hynny’n ei wneud yn annymunol fod y Llywydd yn arfer y pŵer o dan baragraff (2) i benodi aelodau’r panel hwnnw; os felly, rhaid i’r Llywydd ddynodi aelod o’r Tribiwnlys sydd wedi ei ymgymhwyso yn y gyfraith, ac nad oes amgylchiadau tebyg yn perthyn iddo, a chaiff y pŵer o dan baragraff (2) gael ei arfer gan yr aelod hwnnw.