RHAN CCYCHWYN CEISIADAU
Hysbysiad cais12.
(1)
Rhaid i’r hysbysiad cais ddatgan—
(a)
enw a chyfeiriad y ceisydd, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y person hwnnw,
(b)
enw a chyfeiriad unrhyw gynrychiolydd sydd wedi ei benodi gan y ceisydd, ac os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd hwnnw,
(c)
cyfeiriad ac, os oes un ar gael, cyfeiriad e-bost, lle y dylid anfon hysbysiadau a dogfennau ar gyfer y ceisydd,
(d)
y dyddiad y cafodd y ceisydd gadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad sy’n cael ei herio,
(e)
y rheswm neu’r rhesymau dros wneud y cais,
(f)
y canlyniad mae’r ceisydd am gael, a
(g)
yr iaith y mae’r ceisydd, neu gynrychiolydd y ceisydd, os oes un, yn dymuno derbyn cyfathrebiadau oddi wrth y Tribiwnlys ynddi.
(2)
Rhaid cyflwyno’r hysbysiad cais ynghyd â chopi o hysbysiad o’r penderfyniad sy’n cael ei herio.
(3)
Rhaid i’r hysbysiad cais gael ei lofnodi gan y ceisydd, neu gan gynrychiolydd y person hwnnw, os oes un.
(4)
Os yw’r ceisydd yn dymuno gofyn i’r Tribiwnlys arfer y pŵer o dan reol 14 i ystyried y cais er iddo ddod i law’r Tribiwnlys ar ôl yr amser sy’n cael ei bennu gan reol 11(1), rhaid i’r hysbysiad cais—
(a)
gwneud hynny’n glir, a
(b)
cynnwys datganiad o’r rhesymau pam y dylai’r Tribiwnlys arfer y pŵer hwnnw.