xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
17.—(1) Heb ragfarnu rheol 12(1)(b), caiff unrhyw barti, trwy roi hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ar unrhyw adeg yn ddiweddarach—
(a)penodi cynrychiolydd,
(b)penodi cynrychiolydd arall i gymryd lle’r cynrychiolydd a gafodd ei benodi yn flaenorol ac y mae ei benodiad yn cael ei ddiddymu gan y penodiad diweddarach,
(c)datgan nad oes unrhyw berson yn gweithredu fel cynrychiolydd y parti hwnnw, gan ddiddymu unrhyw benodiad blaenorol.
(2) Pan fo penodiad yn cael ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i’r parti perthnasol roi enw, cyfeiriad, a manylion cyswllt y cynrychiolydd a benodwyd.