Cyfnod datganiad achos y ceisydd
18.—(1) Y cyfnod datganiad achos, ar gyfer y ceisydd, yw cyfnod o 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd hysbysiad, a roddwyd o dan reol 13(1)(b)(iv), yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r ceisydd yn unol â rheol 63.
(2) Os yw’r Tribiwnlys yn gwneud cyfarwyddyd mewn perthynas â chais yn unol â rheol 15, ni fydd y cyfnod sy’n cael ei bennu ym mharagraff (1) yn cychwyn, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon hysbysiad at y ceisydd fel sy’n ofynnol gan reol 13(1)(b)(iv), nac anfon unrhyw ddogfennau fel sy’n ofynnol gan reol 13(2), hyd nes y bydd rhesymau wedi’u cael mewn ymateb i’r cyfarwyddyd.
(3) Heb ragfarnu paragraff (2), os yw’r cais yn un am adolygiad gan y Tribiwnlys, o dan adran 103 o’r Mesur, o benderfyniad, neu fethiant i wneud penderfyniad, gan y Comisiynydd, ni fydd y cyfnod sy’n cael ei bennu ym mharagraff (1) yn cychwyn, a rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys beidio ag anfon hysbysiad at y ceisydd fel sy’n ofynnol gan reol 13(1)(b)(iv), nac anfon unrhyw ddogfennau fel sy’n ofynnol gan reol 13(2), hyd nes y bydd y Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd, o dan reol 16, i’r cais gael ei wneud.