xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN DPARATOI ACHOS AR GYFER GWRANDAWIAD

Datganiad achos a thystiolaeth y Comisiynydd

20.—(1Y cyfnod datganiad achos, ar gyfer y Comisiynydd, yw cyfnod o 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd datganiad achos y ceisydd yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r Comisiynydd, yn unol â rheol 63.

(2Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys cyn diwedd y cyfnod datganiad achos—

(a)copi o’r penderfyniad sy’n cael ei herio,

(b)datganiad achos, a

(c)pob tystiolaeth arall y mae’r Comisiynydd yn bwriadu dibynnu arni ac na chafodd ei chyflwyno eisoes.

(3Rhaid i ddatganiad achos y Comisiynydd gael ei lofnodi gan berson a awdurdodwyd i lofnodi dogfennau o’r fath ar ran y Comisiynydd, a rhaid i’r datganiad achos hwnnw ddatgan a yw’r Comisiynydd yn bwriadu gwrthwynebu’r cais ai peidio.

(4Os yw’r Comisiynydd yn bwriadu gwrthwynebu’r cais, rhaid i ddatganiad achos y Comisiynydd ddatgan—

(a)ar ba seiliau y mae’r Comisiynydd yn gwrthwynebu’r cais, neu unrhyw ran o’r cais,

(b)enw a chyfeiriad cynrychiolydd y Comisiynydd ac, os ydynt ar gael, rhif teleffon, rhif ffacs a chyfeiriad e-bost y cynrychiolydd,

(c)y cyfeiriad lle y dylid anfon neu ddanfon dogfennau ar gyfer y Comisiynydd,

(d)crynodeb o’r ffeithiau mewn perthynas â’r penderfyniad sy’n cael ei herio, a

(e)y rheswm neu’r rhesymau dros y penderfyniad sy’n cael eu herio os nad yw’r rheswm neu’r rhesymau’n gynwysedig yn yr hysbysiad o’r penderfyniad.

(5Caiff y Comisiynydd ddiwygio datganiad achos y Comisiynydd, cyflwyno datganiad achos atodol, neu ddiwygio datganiad achos atodol, os bydd y Tribiwnlys wedi rhoi caniatâd.

(6Rhaid i’r Comisiynydd gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gopi o bob diwygiad a datganiad atodol y bydd caniatâd wedi ei roi ar ei gyfer o dan baragraff (5), o fewn y cyfnod o amser sydd wedi cael ei ganiatáu.

(7Os bydd caniatâd wedi cael ei roi o dan baragraff (5), caiff y Tribiwnlys estyn y cyfnod datganiad achos o dan reol 53, neu, os daeth i ben, ganiatáu pa bynnag gyfnod pellach sy’n cael ei ystyried yn briodol gan y Tribiwnlys.

(8Os yw’r ceisydd, pan fydd caniatâd yn cael ei roi o dan baragraff (5), wedi colli’r hawl i fod yn bresennol neu gael cynrychiolydd yn y gwrandawiad yn unol â rheol 25, bydd rhoi’r caniatâd yn adfer yr hawl honno ac, os bydd angen, gall gwrandawiad, neu weddill y gwrandawiad, gael ei ohirio neu ei oedi, fel sy’n briodol, er mwyn sicrhau cynrychiolaeth ar gyfer y ceisydd.