RHAN DPARATOI ACHOS AR GYFER GWRANDAWIAD
Datganiad achos y ceisydd mewn ymateb21.
(1)
Caiff y ceisydd, cyn diwedd y cyfnod sy’n cael ei ragnodi gan baragraff (2), gyflwyno i Ysgrifennydd y Tribiwnlys ddatganiad achos sy’n ymateb i’r hwnnw sy’n eiddo i’r Comisiynydd.
(2)
Y cyfnod sy’n cael ei ragnodi gan baragraff (1) yw 20 diwrnod gwaith, sy’n cychwyn ar y dyddiad y bydd datganiad achos y Comisiynydd yn cael ei ystyried ei fod wedi dod i law’r ceisydd yn unol â rheol 62.