RHAN DPARATOI ACHOS AR GYFER GWRANDAWIAD

Methiant i ymateb i ymholiadau a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys25.

(1)

Caiff y Tribiwnlys orchymyn—

(a)

bod yr hysbysiad cais yn cael ei ddileu ar y sail bod methiant y ceisydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reol 24, yn rhagfarnu, neu’n oedi, gwrandawiad teg o’r cais,

(b)

na chaiff y Comisiynydd gymryd unrhyw gam pellach mewn perthynas â’r cais, na bod yn bresennol yn y gwrandawiad, na chael cynrychiolaeth yno, ar y sail bod methiant y Comisiynydd i gydymffurfio ag ymholiadau, a wnaed gan Ysgrifennydd y Tribiwnlys o dan reol 24, yn rhagfarnu neu’n oedi gwrandawiad teg o’r cais.

(2)

Cyn y gall orchymyn gael ei wneud o dan baragraff (1), rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi hysbysiad i’r parti y mae’r Tribiwnlys yn bwriadu gwneud gorchymyn yn ei erbyn, gan wahodd sylwadau ganddo, a rhaid i’r Tribiwnlys ystyried unrhyw sylwadau sy’n cael eu gwneud.

(3)

At ddibenion y rheol hon—

(a)

rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd sylwadau roi gwybod i’r parti y caiff, o fewn cyfnod (o ddim llai na 5 niwrnod gwaith) sy’n cael ei bennu yn yr hysbysiad, naill ai wneud sylwadau ysgrifenedig neu ofyn am gyfle i wneud sylwadau llafar,

(b)

bydd sylwadau wedi eu gwneud—

(i)

yn achos sylwadau ysgrifenedig, os byddant yn cael eu gwneud o fewn y cyfnod penodedig, a

(ii)

yn achos sylwadau llafar, os yw’r parti sy’n bwriadu eu gwneud wedi gofyn am gyfle i wneud hynny o fewn y cyfnod penodedig.

(4)

Os bydd hysbysiad cais yn cael ei ddileu o dan baragraff (1)(a), tybir bod y cais wedi ei derfynu.