33.—(1) Os na fydd parti wedi cydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan y Rheolau hyn o fewn yr amser sy’n cael ei bennu yn y cyfarwyddyd, caiff y Tribiwnlys—
(a)os y ceisydd yw’r parti diffygiol, wrthod y cais heb wrandawiad,
(b)os y Comisiynydd yw’r parti diffygiol, benderfynu’r cais heb wrandawiad,
(c)cynnal gwrandawiad—
(i)heb hysbysu’r parti diffygiol, lle na fydd y parti diffygiol yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli, neu
(ii)pan fo’r partïon wedi eu hysbysu o’r gwrandawiad yn unol â rheol 36(1), gan roi cyfarwyddyd nad oes hawl gan y parti diffygiol, nac unrhyw berson y bwriedir iddo gynrychioli’r parti hwnnw neu roi tystiolaeth ar ei ran, i gael ei glywed yn y gwrandawiad.
(2) Yn y rheol hon ystyr “y parti diffygiol” (“the party in default”) yw’r parti a fethodd â chydymffurfio â’r cyfarwyddyd.