xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN FGWRANDAWIADAU A PHENDERFYNIADAU

Hysbysu dyddiad, lleoliad ac amser gwrandawiadau

36.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2) a rheol 37, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, ar ôl ymgynghori â’r partïon, bennu dyddiad, lleoliad ac amser unrhyw wrandawiad ac anfon hysbysiad sy’n nodi dyddiad, lleoliad ac amser y gwrandawiad at bob parti.

(2Os yw Ysgrifennydd y Tribiwnlys wedi gofyn i barti ddarparu manylion o’r adegau y byddai ar gael i fod yn bresennol mewn gwrandawiad, a’r parti hwnnw heb gydymffurfio â’r cais, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys fynd ymlaen i drefnu’r gwrandawiad heb ymgynghori ymhellach gyda’r parti hwnnw.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i’r hysbysiad o wrandawiad sy’n cael ei gyfeirio ato ym mharagraff (1) gael ei anfon—

(a)ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y dyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer gwrandawiad, neu

(b)o fewn unrhyw gyfnod o amser byrrach cyn y dyddiad sydd wedi cael ei bennu ar gyfer y gwrandawiad yn is-baragraff (a) fel sydd wedi cael ei gytuno gan y partïon.

(4Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gynnwys yn yr hysbysiad o wrandawiad, neu gyda’r hysbysiad o wrandawiad—

(a)gwybodaeth a chanllawiau, mewn ffurf sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Llywydd, ynglŷn â phresenoldeb y partïon a’r tystion yn y gwrandawiad, dod â dogfennau, a’r hawl i gynrychiolaeth neu gymorth fel sy’n cael ei ddarparu gan reol 45, a

(b)datganiad sy’n esbonio’r canlyniadau posibl os bydd parti yn methu â bod yn bresennol, a’r hawl sydd gan y canlynol i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig—

(i)y ceisydd, os na fydd y ceisydd yn bresennol nac yn cael ei gynrychioli,

(ii)y Comisiynydd, os na fydd y Comisiynydd yn bresennol ac os nad oes gan y Comisiynydd gynrychiolydd, os cafodd datganiad achos ei gyflwyno gan y Comisiynydd, oni fydd y Comisiynydd wedi datgan mewn ysgrifen nad yw’n gwrthwynebu’r cais, neu wedi tynnu gwrthwynebiad i’r cais yn ôl.

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (6), caiff y Tribiwnlys newid lleoliad ac amser unrhyw wrandawiad, ond rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys roi i’r partïon ddim llai na 5 niwrnod gwaith (neu unrhyw gyfnod llai os cytunwyd arno gan y partïon) o rybudd ynghylch lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad.

(6Os yw’r partïon yn bresennol pan fydd y Tribiwnlys yn cyhoeddi lleoliad ac amser newydd y gwrandawiad, ni fydd yn ofynnol rhoi hysbysiad pellach.

(7Nid oes dim ym mharagraffau (1) neu (5) sy’n gosod rhwymedigaeth ar Ysgrifennydd y Tribiwnlys i ymgynghori ag unrhyw berson nad oes hawl ganddo i fod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, nac anfon hysbysiad at unrhyw berson o’r fath.