Y weithdrefn mewn gwrandawiad
39.—(1) Ar ddechrau’r gwrandawiad rhaid i’r Cadeirydd esbonio’r drefn y mae’r panel tribiwnlys yn bwriadu ei mabwysiadu ar gyfer yr achos.
(2) Rhaid i’r panel tribiwnlys gynnal y gwrandawiad mewn modd sydd, ym marn y panel, yn briodol, er mwyn sicrhau eglurdeb materion a thrin y trafodion yn deg a chyfiawn, gan osgoi ffurfioldeb diangen yn y trafodion, i’r graddau y mae’n ystyried yn briodol.
(3) Rhaid i’r panel tribiwnlys benderfynu ym mha drefn y bydd y partïon yn cael eu clywed a pha faterion sydd i’w penderfynu.
(4) Caiff y panel tribiwnlys, os bydd y panel yn fodlon fod gwneud hynny’n deg a chyfiawn, ganiatáu—
(a)i’r ceisydd ddibynnu ar seiliau na chafodd eu datgan yn yr hysbysiad cais nac yn y datganiad achos, a dibynnu ar dystiolaeth na chafodd ei chyflwyno i’r Comisiynydd, cyn nac ar y pryd y gwnaed y penderfyniad sy’n cael ei herio,
(b)i’r Comisiynydd ddibynnu ar seiliau na chafodd eu pennu yn natganiad achos y Comisiynydd.
(5) Os yw aelod o’r panel tribiwnlys, ac eithrio’r Cadeirydd, yn absennol, ar ddechrau’r gwrandawiad neu ar ôl hynny—
(a)caiff y ddau aelod arall, gyda chydsyniad y partïon, gynnal y gwrandawiad, ac os digwydd hynny mae’r panel tribiwnlys i’w ystyried wedi ei gyfansoddi’n briodol, a chaiff y ddau aelod hynny wneud penderfyniad y panel tribiwnlys,
(b)rhaid i’r aelod sy’n absennol beidio ag ailymuno â’r gwrandawiad.