RHAN ACYFFREDINOL

Cyfarwyddiadau Ymarfer4.

(1)

At ddibenion y Rheolau hyn ystyr “cyfarwyddiadau ymarfer” (“practice directions”) yw cyfarwyddiadau ymarfer sy’n cael eu rhoi gan y Llywydd, o dan adran 124 o’r Mesur er mwyn rhoi cyngor ymarferol ar sut i ddehongli a gweithredu’r Rheolau hyn.

(2)

Caiff cyfarwyddiadau ymarfer o dan baragraff (1) amrywio neu ddirymu cyfarwyddiadau ymarfer sydd eisoes yn bod.

(3)

Rhaid i’r Tribiwnlys gyhoeddi cyfarwyddiadau ymarfer a gafodd eu gwneud o dan baragraff (1), ac unrhyw amrywiad neu ddirymiad o gyfarwyddyd ymarfer, yn y modd sy’n briodol ym marn y Llywydd.

(4)

Mae darpariaethau unrhyw gyfarwyddyd ymarfer yn ddarostyngedig, mewn unrhyw achos penodol, i unrhyw gyfarwyddiadau sy’n cael eu rhoi o dan reol 26 mewn perthynas â’r achos hwnnw.