RHAN FGWRANDAWIADAU A PHENDERFYNIADAU
Tystiolaeth mewn gwrandawiad40
1
Yn ddarostyngedig i reol 30(1)(d), mae hawl gan y partïon yng nghwrs y gwrandawiad i roi tystiolaeth, i alw tystion, i holi unrhyw dyst ac i annerch y panel tribiwnlys ar y dystiolaeth, gan gynnwys y dystiolaeth ysgrifenedig a gafodd ei chyflwyno cyn y gwrandawiad, yn ogystal ag yn gyffredinol ar destun y cais.
2
Ceir rhoi tystiolaeth gerbron y panel tribiwnlys naill ai—
a
ar lafar, neu
b
drwy ddatganiad ysgrifenedig os cafodd y dystiolaeth honno ei chyflwyno ynghyd â’r hysbysiad cais neu’r datganiad achos, neu’n unol â chyfarwyddyd gan y Tribiwnlys.
3
Caiff y Tribiwnlys, yn ystod unrhyw gam o’r cais, bennu bod presenoldeb personol y sawl a wnaeth unrhyw ddatganiad ysgrifenedig yn ofynnol.
4
Caiff y Tribiwnlys dderbyn tystiolaeth ynghylch unrhyw ffaith sy’n ymddangos i’r Tribiwnlys ei fod yn berthnasol.
5
Caiff y Tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw barti neu dyst yn rhoi tystiolaeth ar lw neu drwy gadarnhad, ac at y diben hwnnw ceir gweinyddu llw neu gadarnhad yn y ffurf gywir, neu ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw dystiolaeth a roddir drwy ddatganiad ysgrifenedig yn cael ei rhoi o dan ddatganiad o wirionedd.