Rheolau Tribiwnlys y Gymraeg 2015

Gohiriadau a chyfarwyddiadau canlyniadol

44.—(1Caiff y Tribiwnlys ohirio gwrandawiad ar ôl ei gychwyn.

(2Pan fydd gwrandawiad yn cael ei ohirio ar ôl ei gychwyn caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy cyn ailgychwyn y gwrandawiad neu yn y gwrandawiad ar ôl ailgychwyn.

(3Caiff cyfarwyddyd o dan baragraff (2) ei gwneud yn ofynnol bod parti’n darparu pa bynnag fanylion, dystiolaeth neu ddatganiadau y mae gofyn rhesymol amdanynt ar gyfer penderfynu’r cais.

(4Os yw parti’n methu â chydymffurfio â chyfarwyddyd sy’n cael ei wneud o dan baragraff (2), caiff y panel tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu’r cais neu wrth benderfynu a ddylid gwneud gorchymyn ar gyfer costau.

(5Os bydd lleoliad ac amser gwrandawiad a ohiriwyd ar ôl ei gychwyn, yn cael eu cyhoeddi y gwrandawid cyn ei ohirio, ni fydd unrhyw hysbysiad pellach yn ofynnol.