RHAN GAR ÔL Y GWRANDAWIAD

Cais neu gynnig am adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys48.

(1)

Caiff parti wneud cais i Ysgrifennydd y Tribiwnlys i benderfyniad gan y Tribiwnlys gael ei adolygu ar y seiliau—

(a)

bod y penderfyniad wedi ei wneud yn anghywir oherwydd gwall pwysig ar ran gweinyddiaeth y Tribiwnlys,

(b)

bod gan barti a oedd â hawl i gael ei glywed yn y gwrandawiad, ond a fethodd ag ymddangos neu gael ei gynrychioli, reswm da a digonol dros beidio ag ymddangos, neu

(c)

bod gwall amlwg a phwysig yn y penderfyniad.

(2)

Rhaid i gais am adolygu penderfyniad y Tribiwnlys gael ei wneud—

(a)

mewn ysgrifen gan ddatgan y seiliau,

(b)

ddim hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd y penderfyniad at y partïon.

(3)

Caiff y Llywydd—

(a)

ar gais parti o dan baragraff (1), neu ar gymhelliad y Llywydd ei hunan, adolygu a gosod o’r neilltu neu amrywio unrhyw benderfyniad a wnaed gan y Tribiwnlys, ar un o’r seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1),

(b)

gwrthod cais am adolygiad o benderfyniad y Tribiwnlys yn unol â pharagraff (5).

(4)

Rhaid i’r Llywydd, os yw’n gosod penderfyniad panel tribiwnlys o’r neilltu o dan baragraff (3), orchymyn cynnal ail wrandawiad, gerbron panel tribiwnlys sydd wedi ei gyfansoddi’n wahanol.

(5)

Hyd yn oed os yw’r Llywydd wedi ei argyhoeddi fod un neu fwy o’r seiliau sy’n cael eu cyfeirio atynt ym mharagraff (1) wedi eu dangos, caiff wrthod y cais am adolygiad neu ran ohono, os, ym marn y Llywydd, bydd buddiannau cyfiawnder yn cyfiawnhau hynny.

(6)

Rhaid i’r Llywydd, cyn caniatáu cais am adolygiad roi cyfle i’r partïon gael eu clywed ganddo.

(7)

Os bydd penderfyniad yn cael ei osod o’r neilltu neu os bydd penderfyniad yn cael ei amrywio yn dilyn adolygiad o dan y rheol hon, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr a hysbysu’r partïon o hynny.