RHAN GAR ÔL Y GWRANDAWIAD

Gorchmynion yr Uchel Lys52.

(1)

Os caiff unrhyw benderfyniad gan y Tribiwnlys ei osod o’r neilltu, ei amrywio neu ei newid mewn unrhyw ffordd gan orchymyn yr Uchel Lys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys newid y cofnod yn y Gofrestr i gyfateb i’r gorchymyn hwnnw, a rhaid iddo hysbysu’r partïon yn unol â hynny.

(2)

Os bydd y cais yn cael ei ddychwelyd, drwy orchymyn yr Uchel Lys, i’w ail-glywed gan y Tribiwnlys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon y caiff pob parti, yn ystod cyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach sydd wedi ei gytuno rhwng y partïon) gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.

(3)

Os caiff gorchymyn i ddileu hysbysiad cais ei ddiddymu neu ei osod o’r neilltu gan yr Uchel Lys, rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys hysbysu’r partïon—

(a)

os nad oedd y cyfnod datganiad achos wedi dod i ben cyn i’r gorchymyn i ddileu cael effaith—

(i)

y bydd cyfnod datganiad achos newydd yn dechrau, a

(ii)

y caiff y partïon, o fewn y cyfnod datganiad achos newydd, gyflwyno’r dogfennau sy’n cael eu cyfeirio atynt yn is-baragraff (b) mewn perthynas â datganiad achos neu dystiolaeth a gafodd eu cyflwyno cyn i’r dileu cael effaith, neu

(b)

pan nad yw is-baragraff (a) yn gymwys, bod gan bob parti gyfnod o 15 niwrnod gwaith (neu gyfnod byrrach sydd wedi ei gytuno rhwng y partïon) i gyflwyno datganiad achos atodol a thystiolaeth ysgrifenedig bellach.

(4)

Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys anfon copi o’r holl ddatganiadau achos a thystiolaeth ysgrifenedig sydd wedi’u cael gan barti yn ystod y cyfnodau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2) a (3)(b) at y parti arall.