RHAN HAMRYWIOL

Gorchmynion ar gyfer costau a threuliau55.

(1)

Fel rheol, rhaid i’r Tribiwnlys beidio â gwneud gorchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau, ond, yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff wneud gorchymyn o’r fath—

(a)

yn erbyn parti os bydd y Tribiwnlys o’r farn bod y parti wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi, neu, fod ymddygiad y parti, wrth wneud neu wrthwynebu’r cais, wedi bod yn afresymol,

(b)

yn erbyn cynrychiolydd os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod y cynrychiolydd wedi bod yn gyfrifol am weithred neu anwaith amhriodol, afresymol neu esgeulus, neu am unrhyw fethiant i gydymffurfio â chyfarwyddyd, neu am unrhyw oedi y gellid, gyda diwydrwydd, fod wedi ei osgoi,

(c)

yn erbyn parti a fethodd â bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli mewn gwrandawiad yr hysbyswyd y parti hwnnw ohono yn briodol,

(d)

yn erbyn y Comisiynydd os methodd y Comisiynydd â chyflwyno datganiad achos o dan reol 20,

(e)

yn erbyn y Comisiynydd os yw’r Tribiwnlys o’r farn bod y penderfyniad sy’n cael ei herio’n afresymol.

(2)

Ceir gwneud unrhyw orchymyn mewn perthynas â chostau a threuliau—

(a)

mewn perthynas â’r cyfan, neu unrhyw ran o unrhyw gostau a threuliau a achoswyd, neu unrhyw lwfansau a dalwyd, neu

(b)

mewn perthynas â’r cyfan, neu unrhyw ran, o unrhyw lwfans (ac eithrio lwfansau a delir i aelodau o’r Tribiwnlys) sydd i’w dalu i unrhyw berson at ddibenion, neu mewn cysylltiad â phresenoldeb y person hwnnw mewn gwrandawiad Tribiwnlys.

(3)

Ceir gwneud gorchymyn ar gyfer costau ar gais parti neu ar gymhelliad y Tribiwnlys ei hunan.

(4)

Rhaid i barti sy’n gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3)—

(a)

cyflwyno cais ysgrifenedig a rhestr o’r costau sy’n cael eu hawlio i Ysgrifennydd y Tribiwnlys, a

(b)

cyflwyno copi o’r cais a’r rhestr o gostau i’r person y mae’n fwriad i’r gorchymyn cael ei wneud yn ei erbyn.

(5)

Ceir gwneud cais am orchymyn o dan baragraff (3) ar unrhyw adeg yn ystod yr achos ond ni cheir ei wneud yn hwyrach nag 28 diwrnod ar ôl y dyddiad—

(a)

pan gafodd yr hysbysiad yn cofnodi’r penderfyniad terfynol ar bob mater yn y cais ei ddyroddi,

(b)

ar ôl tynnu’n ôl y cais, pan wnaed gorchymyn yn gwrthod y cais,

(c)

yn dilyn ildiad y Comisiynydd, pan gafodd yr hysbysiad o benderfyniad ei ddyroddi.

(6)

Yn achos cais am orchymyn o dan baragraff (3)—

(a)

rhaid i’r Tribiwnlys ei wrthod os yw’r parti yn gofyn i’r Tribiwnlys ystyried mater sydd y tu allan i’w bwerau,

(b)

caiff y Tribiwnlys ei wrthod yn gyfan gwbl neu’n rhannol os, ym marn y Tribiwnlys, nad oes siawns resymol y gall y cyfan neu’r rhan ohono lwyddo.

(7)

Oni fydd cais am orchymyn yn cael ei wrthod o dan baragraff (6), rhaid ei benderfynu ar ôl rhoi cyfle i’r parti a’r person y mae’n fwriad i’r gorchymyn cael ei wneud yn ei erbyn cael eu clywed gan y Tribiwnlys.

(8)

Os bydd gorchymyn yn cael ei wneud o dan baragraff (3), caiff y Tribiwnlys roi cyfarwyddiadau y mae’n rhaid cydymffurfio â hwy cyn neu yn ystod y gwrandawiad costau.

(9)

Os digwydd i barti fethu â chydymffurfio â chyfarwyddyd a roddwyd o dan baragraff (8), caiff y Tribiwnlys gymryd y ffaith honno i ystyriaeth wrth benderfynu pa un ag i wneud gorchymyn ar gyfer costau ai peidio.

(10)

Caiff gorchymyn o dan baragraff (3) ei wneud yn ofynnol bod y parti neu’r cynrychiolydd y mae’r gorchymyn yn cael ei wneud yn ei erbyn yn talu i barti naill ai swm penodedig mewn perthynas â’r costau a’r treuliau a gafodd eu hachosi i’r parti arall hwnnw mewn cysylltiad â’r cais, neu’r cyfan neu ran o’r cyfryw gostau, fel y byddant yn cael eu hasesu, oni fydd cytuno arnynt.

(11)

Effaith gorchymyn o dan y rheol hon y dylai costau gael eu hasesu yw mai mater i’r llys sirol bydd gwneud asesiad manwl o’r costau hynny yn unol â Rheolau’r Weithdrefn Sifil 1998, naill ai ar y sail safonol neu, os pennir hynny yn y gorchymyn, ar sail indemniad.