RHAN HAMRYWIOL

Pŵer i arfer swyddogaethau56.

(1)

Yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd ymarfer sydd wedi cael ei wneud gan y Llywydd, caiff unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy gan y Tribiwnlys o dan y Rheolau hyn gael ei arfer gan—

(a)

panel tribiwnlys,

(b)

y Llywydd,

(c)

aelod o’r Tribiwnlys sydd wedi ei ymgymhwyso yn y gyfraith ac a gafodd ei awdurdodi mewn ysgrifen gan y Llywydd i arfer y swyddogaeth honno.

(2)

Caiff unrhyw swyddogaeth sy’n arferadwy gan y Llywydd o dan y Rheolau hyn gael ei harfer gan aelod o’r Tribiwnlys sydd wedi ymgymhwyso yn y gyfraith ac sydd wedi ei awdurdodi gan y Llywydd i wneud hynny.

(3)

Yn ddarostyngedig i reol 60(6), os bydd farw’r Cadeirydd neu os â’n analluog, neu os yw’n peidio â bod yn aelod o’r Tribiwnlys, yn dilyn penderfyniad o’r panel tribiwnlys, caiff y Llywydd neu Gadeirydd arall, sydd wedi ei benodi gan y Llywydd at y pwrpas, arfer swyddogaethau’r Cadeirydd.