RHAN HAMRYWIOL
Y Gofrestr58.
(1)
Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadw Cofrestr o’r ceisiau sy’n cael eu gwneud i’r Tribiwnlys.
(2)
Rhaid gwneud cofnod yn y Gofrestr o bob cais, ac rhaid i’r cofnod hwnnw gynnwys y manylion canlynol pan fo’n briodol—
(a)
enwau a chyfeiriadau’r partïon,
(b)
manylion cryno o natur y cais,
(c)
dyddiad unrhyw wrandawiad, gan gynnwys unrhyw wrandawiad ar faterion rhagarweiniol neu achlysurol, a phan fo’n briodol, natur y gwrandawiad,
(d)
manylion o unrhyw gyfarwyddiadau neu orchmynion sydd wedi’u ddyroddi, a
(e)
y ddogfen y cafodd penderfyniad y panel tribiwnlys ei gofnodi ynddi o dan reol 47(3).
(3)
Ceir cadw’r Gofrestr neu unrhyw ran ohoni mewn ffurf electronig.