58.—(1) Rhaid i Ysgrifennydd y Tribiwnlys gadw Cofrestr o’r ceisiau sy’n cael eu gwneud i’r Tribiwnlys.
(2) Rhaid gwneud cofnod yn y Gofrestr o bob cais, ac rhaid i’r cofnod hwnnw gynnwys y manylion canlynol pan fo’n briodol—
(a)enwau a chyfeiriadau’r partïon,
(b)manylion cryno o natur y cais,
(c)dyddiad unrhyw wrandawiad, gan gynnwys unrhyw wrandawiad ar faterion rhagarweiniol neu achlysurol, a phan fo’n briodol, natur y gwrandawiad,
(d)manylion o unrhyw gyfarwyddiadau neu orchmynion sydd wedi’u ddyroddi, a
(e)y ddogfen y cafodd penderfyniad y panel tribiwnlys ei gofnodi ynddi o dan reol 47(3).
(3) Ceir cadw’r Gofrestr neu unrhyw ran ohoni mewn ffurf electronig.