2015 Rhif 1180 (Cy. 78)

Bywyd Gwyllt, Cymru

Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 9) (Cymru) 2015

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 22(5)(a) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 19811 ac sydd bellach wedi eu breinio ynddynt hwy2, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

Yn unol â gofynion adran 26(4) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru—

  1. a

    wedi rhoi cyfle i unrhyw awdurdod lleol yr effeithir arno ac unrhyw berson arall yr effeithir arno gyflwyno gwrthwynebiadau neu sylwadau mewn cysylltiad â phwnc y Gorchymyn hwn; a

  2. b

    wedi ymgynghori â’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur, sef y corff cynghori3 gorau ym marn Gweinidogion Cymru i’w cynghori ynghylch a ddylid gwneud y Gorchymyn hwn ai peidio.

Enwi a chychwyn1

1

Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (Amrywio Atodlen 9) (Cymru) 2015.

2

Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 11 Mai 2015.

Amrywio Atodlen 92

Yn Rhan 1B o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (anifeiliaid nad ydynt fel arfer yn bresennol mwyach)4, yn yr eitem sy’n ymwneud â “Beaver, Eurasian” hepgorer “(but not in relation to Wales)”.

Carl SargeantY Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn, sy’n gymwys o ran Cymru, yn amrywio Rhan 1B o Atodlen 9 i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 11981 (p. 69) (“y Ddeddf”), sy’n rhestru’r anifeiliaid nad ydynt fel arfer yn bresennol ym Mhrydain Fawr mwyach ac na chaniateir eu rhyddhau neu ganiatáu iddynt ddianc i’r gwyllt.

Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn ychwanegu’r Afanc Ewrasiaidd at Ran 1B o Atodlen 9 i’r Ddeddf o ran Cymru (ar hyn o bryd mae’r Afanc Ewrasiaidd wedi ei gynnwys o ran Lloegr yn unig).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth Lywodraeth Cymru (Yr Is-adran Tir, Natur a Choedwigaeth), Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR.