Offerynnau Statudol Cymru

2015 Rhif 1266 (Cy. 86)

Tai, Cymru

Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefn Adolygu) (Cymru) 2015

Gwnaed

21 Ebrill 2015

Yn dod i rym

27 Ebrill 2015

Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a’i gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 142(3)(b)(ii) o’r Ddeddf honno.

Enwi, cychwyn a dehongli

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Digartrefedd (Gweithdrefn Adolygu) (Cymru) 2015.

(2Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 27 Ebrill 2015.

(3Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “yr adolygwr” (“the reviewer”) yw—

(a)

pan nad yw’r penderfyniad gwreiddiol yn cael ei wneud o dan adran 80(5), yr awdurdod;

(b)

pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn cael ei wneud o dan adran 80(5) (penderfyniad ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni)—

(i)

yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir, pan fo’r adolygiad yn cael ei wneud gan yr awdurdodau hynny; neu

(ii)

y person a benodwyd i gynnal yr adolygiad yn unol â rheoliad 4, pan fo’r achos yn dod o fewn y rheoliad hwnnw;

ystyr “yr awdurdod” (“the authority”) yw—

(a)

yr awdurdod tai lleol a wnaeth y penderfyniad y gofynnwyd am adolygiad ohono o dan adran 85, neu

(b)

yr awdurdod sy’n hysbysu os gwnaed y penderfyniad hwnnw o dan adran 80(5) (penderfyniad ynghylch a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos at awdurdod tai lleol arall wedi eu bodloni);

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, yn ddydd Sul, yn Ddydd Nadolig, yn Ddydd Gwener y Groglith nac yn ŵyl y banc(2);

ystyr “y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau” (“the Decisions on Referrals Order”) yw Gorchymyn Digartrefedd (Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau) 1998(3).

(4Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at adrannau yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Tai (Cymru) 2014.

Gofyn am adolygiad a hysbysiad am y weithdrefn adolygu

2.—(1Rhaid gofyn i’r awdurdod am adolygiad o dan adran 85.

(2Ac eithrio pan fo achos yn dod o fewn rheoliad 4, rhaid i’r awdurdod y gofynnwyd iddo am adolygiad o dan adran 85 o fewn pum niwrnod gwaith o gael cais—

(a)gwahodd y ceisydd, a phan fo’n berthnasol, gynrychiolydd y ceisydd, i wneud sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig; a

(b)os nad ydyw eisoes wedi gwneud hynny, hysbysu’r ceisydd am y weithdrefn i’w dilyn mewn cysylltiad â’r adolygiad.

(3Pan fo achos yn dod o fewn rheoliad 4, rhaid i’r person a benodwyd yn unol â’r rheoliad hwnnw o fewn pum niwrnod gwaith o gael ei benodi—

(a)gwahodd y ceisydd, a phan fo’n berthnasol, gynrychiolydd y ceisydd, i wneud sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig; a

(b)hysbysu’r ceisydd am y weithdrefn i’w dilyn mewn cysylltiad â’r adolygiad.

Swyddog yn gwneud penderfyniad ynghylch adolygiad

3.  Pan fo penderfyniad yr awdurdod ynghylch adolygiad o benderfyniad gwreiddiol a wnaed gan swyddog o’r awdurdod hefyd i’w wneud gan swyddog, rhaid i’r swyddog hwnnw fod yn rhywun nad oedd wedi ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol.

Y weithdrefn gychwynnol pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol o dan y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau.

4.—(1Pan gafodd y penderfyniad gwreiddiol o dan adran 80(5) (pa un a yw’r amodau ar gyfer atgyfeirio achos wedi eu bodloni) ei wneud o dan y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau, mae adolygiad o’r penderfyniad hwnnw (yn ddarostyngedig i baragraff (2)) i’w gynnal gan berson a benodwyd gan yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir.

(2Os nad yw person yn cael ei benodi yn unol â pharagraff (1) o fewn pum niwrnod gwaith o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, yna mae’r adolygiad i’w gynnal gan—

(a)person o’r panel a ffurfiwyd yn unol â pharagraff 3 o’r Atodlen i’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau (“y panel”); a

(b)person a benodwyd yn unol â pharagraff (3).

(3Rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu, o fewn pum niwrnod gwaith o ddiwedd y cyfnod a bennir ym mharagraff (2), ofyn i gadeirydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru neu enwebai’r cadeirydd (“y swyddog priodol”) benodi person o’r panel a rhaid i’r swyddog priodol wneud hynny o fewn saith niwrnod i’r cais.

(4Rhaid i’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir, o fewn pum niwrnod gwaith o benodi’r person a benodwyd (“y person penodedig”), ddarparu rhesymau i’r person penodedig am y penderfyniad gwreiddiol a’r wybodaeth a’r dystiolaeth sy’n sail i’r penderfyniad hwnnw.

(5Rhaid i’r person penodedig—

(a)anfon unrhyw sylwadau a wnaed o dan reoliad 2 i’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir; a

(b)gwahodd yr awdurdodau hynny i ymateb i’r sylwadau hynny.

(6Ni chaiff y person penodedig fod yr un person â’r person a wnaeth y penderfyniad gwreiddiol.

Gweithdrefn ar gyfer adolygiad

5.—(1Rhaid i’r adolygwr, yn ddarostyngedig i gydymffurfio â darpariaethau rheoliad 6, ystyried—

(a)unrhyw sylwadau a wneir o dan reoliad 2, ac mewn achos sy’n dod o fewn rheoliad 4, unrhyw ymatebion iddynt; a

(b)unrhyw sylwadau a wneir o dan baragraff (2).

(2Os yw’r adolygwr yn ystyried bod diffyg neu anghysondeb yn y penderfyniad gwreiddiol, neu yn y ffordd y cafodd ei wneud, ond er hynny’n bwriadu gwneud penderfyniad sy’n groes i fuddiannau’r ceisydd ar un neu ragor o faterion, rhaid i’r adolygwr hysbysu’r ceisydd—

(a)bod yr adolygwr yn bwriadu gwneud hynny a’r rhesymau pam; a

(b)y caiff y ceisydd, neu rywun sy’n gweithredu ar ran y ceisydd, wneud sylwadau i’r adolygwr ar lafar neu’n ysgrifenedig neu ar lafar ac yn ysgrifenedig.

Hysbysiad o benderfyniad yn dilyn adolygiad

6.—(1Y cyfnod y mae’n rhaid rhoi hysbysiad o benderfyniad yn dilyn adolygiad o dan adran 85 i’r ceisydd o dan adran 85(3) yw—

(a)wyth wythnos o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, ac eithrio pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn dod o fewn is-baragraffau (b) ac (c);

(b)deng wythnos o’r diwrnod y gwneir cais am adolygiad, pan fo’r penderfyniad gwreiddiol yn dod o fewn adran 80(5) a’r adolygiad yn cael ei wneud gan berson a benodir gan yr awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir;

(c)deuddeng wythnos o’r diwrnod y gwneir y cais am adolygiad mewn achos sy’n dod o fewn rheoliad 4.

(2Caiff y cyfnod a bennir ym mharagraff (1) fod y cyfryw gyfnod hwy ag y caiff y ceisydd a’r adolygwr gytuno arno yn ysgrifenedig.

(3Mewn achos sy’n dod o fewn paragraff (1)(c), rhaid i’r person penodedig hysbysu’r awdurdod sy’n hysbysu a’r awdurdod a hysbysir am y penderfyniad yn dilyn yr adolygiad, a’r rhesymau amdano, yn ysgrifenedig o fewn cyfnod o un wythnos ar ddeg o’r diwrnod y gwneir y cais am yr adolygiad, neu o fewn cyfnod sy’n dechrau ar y diwrnod hwnnw sydd wythnos yn llai na’r hyn y cytunwyd arno yn unol â pharagraff (2).

Cymhwyso’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau

7.  Mae’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau yn cael effaith at ddibenion y Rheoliadau hyn fel petai wedi ei wneud o dan y pwerau a roddir gan adran 80(5)(b) a (6)(b), ac mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwnnw at Ddeddf Tai 1996 i’w dehongli fel petaent yn cyfeirio at ddarpariaethau cyfatebol Deddf Tai (Cymru) 2014.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

8.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae’r Rheoliadau a ganlyn drwy hyn wedi eu dirymu o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu a Diwygio) 1996(4);

(b)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) 1997(5);

(c)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Diwygio) (Rhif 2) 1997(6);

(d)Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) 1999(7).

(2Mae’r Rheoliadau a ddirymir gan baragraff (1) yn parhau mewn grym mewn unrhyw achos pan fo cais am adolygiad o dan adran 202 o Ddeddf Tai 1996 yn cael ei wneud cyn y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, un o Weinidogion Cymru

21 Ebrill 2015

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch y weithdrefn i’w dilyn o dan adran 85 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”) mewn cysylltiad ag adolygiad gan awdurdod tai lleol o benderfyniadau penodol sy’n ymwneud â digartrefedd.

Mae rheoliad 2 yn darparu bod rhaid gwneud ceisiadau am adolygiad i’r awdurdod tai lleol a wnaeth y penderfyniad y gofynnwyd am adolygiad ohono o dan adran 85. Rhaid i awdurdodau roi gwybod i geiswyr a chynrychiolwyr y cânt wneud sylwadau ar lafar neu’n ysgrifenedig (neu ill dau) mewn cysylltiad â’r adolygiad. Rhaid i geiswyr hefyd gael gwybod am y weithdrefn i’w dilyn ar gyfer adolygiad. Mae’r gofynion hyn hefyd yn gymwys mewn perthynas ag adolygiadau sy’n dod o fewn rheoliad 4 (y weithdrefn gychwynnol pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol o dan y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau).

Pan wnaed y penderfyniad yn wreiddiol gan swyddog o’r awdurdod a bod y penderfyniad hwnnw i’w adolygu gan swyddog o’r awdurdod, yna mae rheoliad 3 yn darparu na chaiff y swyddog adolygu fod wedi ymwneud â’r penderfyniad gwreiddiol.

Mae rheoliad 4 yn nodi’r weithdrefn gychwynnol i’w dilyn pan wnaed y penderfyniad gwreiddiol o dan Orchymyn Digartrefedd (Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau) 1998 (O.S. 1998/1578) (“y Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau”) (fel y’i cymhwysir gan reoliad 7).

Mae rheoliad 5 yn darparu’r gofynion gweithdrefnol sy’n gymwys i bob adolygiad o dan y Rheoliadau. Rhaid i’r adolygwr ystyried unrhyw sylwadau a wneir yn unol â rheoliadau 2 a 4. Os bwriada’r adolygwr wneud penderfyniad yn groes i fuddiannau’r ceisydd er gwaethaf rhyw ddiffyg neu anghysondeb yn y penderfyniad gwreiddiol neu’r ffordd y cafodd ei wneud, rhaid i’r adolygwr hysbysu’r ceisydd am ei resymau a gwahodd sylwadau. Gall y ceisydd neu gynrychiolwr wneud y sylwadau hyn, naill ai’n ysgrifenedig neu ar lafar, neu ill dau.

Mae rheoliad 6 yn nodi’r gofynion ar gyfer hysbysu ceiswyr am benderfyniadau yn dilyn adolygiad.

Mae rheoliad 7 yn nodi sut mae cymhwyso’r Gorchymyn Penderfyniadau ynghylch Atgyfeiriadau at ddiben y Rheoliadau hyn.

Mae rheoliad 8 yn gwneud amryfal ddirymiadau canlyniadol o ran Cymru. Yn benodol, mae rheoliad 8 yn dirymu Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Gweithdrefnau Adolygu) 1999 (O.S. 1999/71), a oedd yn ymdrin ag adolygiadau o benderfyniadau awdurdodau tai lleol ar ddigartrefedd o dan Ddeddf Tai 1996. Mae gweddill y dirymiadau yn ymwneud â deddfwriaeth ddiwygio nad yw bellach yn cael effaith. Ceir darpariaeth drosiannol sy’n arbed y ffordd y cymhwysir y Rheoliadau sydd i gael eu dirymu, mewn perthynas ag achosion sy’n parhau o dan Ddeddf Tai 1996.

(2)

Fel y’i diffinnir yn adran 1 o Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971 (p. 80) ac Atodlen 1 iddi.