RHAN 2Amgylchiadau pan na fo llety Gwely a Brecwast a llety a rennir i’w hystyried yn addas ar gyfer personau sydd mewn angen blaenoriaethol, neu y gallent fod mewn angen o’r fath

Eithriadau i erthyglau 4 a 5 pan fo llety yn bodloni safon

7.—(1Nid yw erthygl 4 yn gymwys—

(a)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 2 wythnos;

(b)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast o safon uwch am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos;

(c)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos, a bod yr awdurdod, cyn diwedd y cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), wedi cynnig llety addas arall, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw;

(d)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol ar ôl arfer y dewis y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (c), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw;

(e)pan fo’r person yn meddiannu llety Gwely a Brecwast bach o safon uwch, a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall, cyn i’r cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) ddod i ben, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast hwnnw.

(2Nid yw erthygl 5 yn gymwys—

(a)pan fo’r person yn meddiannu llety a rennir o safon sylfaenol am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 2 wythnos;

(b)pan fo’r person yn meddiannu, am gyfnod, neu am gyfanswm o gyfnodau, nad yw’n fwy na 6 wythnos, lety a rennir o safon sylfaenol sydd ym mherchnogaeth neu a reolir gan awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, a bod yr awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn i’r cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) ddod i ben, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety hwnnw; neu

(c)(i)pan fo’r person yn meddiannu llety a rennir o safon sylfaenol a ddefnyddir yn llwyr neu’n bennaf i ddarparu llety dros dro i bersonau sydd wedi gadael eu cartrefi o ganlyniad i gam-drin domestig, ac sy’n cael ei reoli gan sefydliad—

(aa)nad yw’n awdurdod tai lleol; a

(bb)nad yw’n masnachu i wneud elw; a

(ii)pan fo’r awdurdod wedi cynnig llety addas arall cyn diwedd y cyfnod o chwe wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety hwnnw.

(3Os yw’r llety addas arall a gynigir at ddibenion paragraffau (1) neu (2) yn cael ei rannu, rhaid iddo fodloni’r safon uwch.

(4Yn achos aelwydydd sydd â phlant dibynnol neu fenyw feichiog, rhaid i’r cynnig a wneir o dan baragraff (1)(d) neu (e), neu baragraff (2)(c) fod yn llety hunangynhaliol addas. Yn achos ceisydd sy’n berson ifanc dan oed, rhaid i’r cynnig fod yn llety addas â chymorth.

(5Wrth gyfrifo cyfnod, neu gyfanswm cyfnod, y mae person wedi meddiannu llety a rennir at ddibenion paragraffau (1) neu (2), rhaid diystyru unrhyw gyfnod cyn y daeth awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan adran 73 yn rhinwedd adrannau 82(4) neu 83(2) (atgyfeiriadau yn sgil cysylltiadau lleol).