Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015
Gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac fe’i cymeradwywyd drwy benderfyniad ganddo, yn unol ag adran 182(3) o’r Ddeddf honno.
Enwi a chychwyn1.
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2015 a daw i rym ar 19 Mai 2015.
Diwygio Deddf Tai 19962.
(1)
(2)
Yn adran 160A(8) (Dyrannu i bersonau cymwys yn unig: Cymru)—
(a)
“(aa)
behaviour of the person concerned which would (if he were a secure tenant of the authority) entitle the authority to a possession order under section 84A of the Housing Act 1985; or”; a
(b)
yn is-adran (b) yn lle “such a possession order” rhodder “a possession order of the type referred to in paragraph (a) or (aa)”.
Mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn diwygio adran 160A(8) o Ddeddf Tai 1996 (“Deddf 1996”) drwy fewnosod cyfeiriad at adran 84A newydd o Ddeddf Tai 1985 (“Deddf 1985”).
Mae adran 160A o Ddeddf 1996 yn darparu na chaiff awdurdod lleol ddyrannu llety tai o dan Ran 6 o’r Ddeddf honno i bersonau anghymwys. Mae adran 160A(7) yn darparu y caiff awdurdod lleol benderfynu bod ymgeisydd i’w drin fel ymgeisydd sy’n anghymwys i gael dyraniad os yw ymddygiad yr ymgeisydd (neu ymddygiad aelod o’r aelwyd) yn ei wneud yn anaddas i fod yn denant. Mae adran 160A(8) yn darparu bod ymddygiad o’r fath yn annerbyniol pe bai’n rhoi’r hawl i’r awdurdod lleol (pe bai’r ymgeisydd yn denant diogel) roi gorchymyn ildio meddiant o dan adran 84 o Ddeddf 1985.
Mewnosododd adran 94 o Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014 (“Deddf 2014”) adran 84A i Ddeddf 1985, gan ddarparu sail absoliwt newydd ar gyfer meddiannu annedd, mewn cysylltiad â thenantiaethau diogel ar sail ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Effaith y Gorchymyn hwn yw diwygio adran 160A(8) o Ddeddf 1996 fel bod cyfeiriad yn cael ei wneud at y sail absoliwt newydd ar gyfer meddiannu. Mae’r diwygiad hwn, felly, yn ganlyniadol i’r darpariaethau yn adrannau 94 i 96 o Ddeddf 2014, ac Atodlen 3 iddi.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn. Mae’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â gweithredu Rhan 5 o Ddeddf 2014. Cynhaliodd y Swyddfa Gartref asesiad effaith mewn perthynas â’r Rhan honno, ac fe’i gyhoeddir ar wefan y Swyddfa Gartref.