Darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2016
6. Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2016 i’r graddau a bennir—
(a)adran 2 (cais am gymeradwyaeth i gynllun ffioedd a mynediad) at bob diben sy’n weddill;
(b)adran 4 (y cyfnod y mae cynllun ffioedd a mynediad i gael effaith mewn cysylltiad ag ef) at bob diben sy’n weddill;
(c)adran 5 (terfyn ffioedd) at bob diben sy’n weddill;
(d)adran 6 (hybu cyfle cyfartal ac addysg uwch) at bob diben sy’n weddill;
(e)adran 7 (cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad) at bob diben sy’n weddill; ac
(f)adran 41(1)(a) (y weithdrefn hysbysiad rhybuddio ac adolygu ar gyfer hysbysiadau a chyfarwyddydau penodol) at bob diben.