7. Er gwaethaf dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14, 16 a 19 o’r Atodlen i’r Ddeddf ar 1 Medi 2015—
(a)mae rheoliad 9 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd yn dal yn gymwys i gynllun Deddf 2004 sy’n cael ei drin fel cynllun ffioedd a mynediad sydd wedi ei gymeradwyo o dan adran 7 o’r Ddeddf yn ystod y cyfnod trosiannol;
(b)mae’r darpariaethau a ganlyn yn dal yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw—
(i)adran 32(4) o Ddeddf 2004; a
(ii)rheoliad 5 i 7 ac 11 i 18 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd; ac
(c)mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau Dynodi yn dal yn gymwys i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).