Darpariaeth arbed mewn perthynas â dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14 i 16 a 19 o’r Atodlen i’r Ddeddf
8. Er gwaethaf dwyn i rym baragraffau 11, 12, 14 a 15 o’r Atodlen i’r Ddeddf ar 1 Medi 2015—
(a)mae rheoliad 5 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd yn dal yn gymwys i gais am gymeradwyaeth i gynllun arfaethedig a gafodd CCAUC o dan adran 34 o Ddeddf 2004 cyn 1 Medi 2015;
(b)mae’r darpariaethau a ganlyn yn dal yn gymwys mewn perthynas â’r rheoliad hwnnw at ddibenion cais o’r fath—
(i)adran 32(4) o Ddeddf 2004;
(ii)adran 35(1) a 35(2)(b) o Ddeddf 2004; a
(iii)rheoliadau 6 i 8 ac 11 i 18 o’r Rheoliadau Cynlluniau a Gymeradwywyd; ac
(c)mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau Dynodi yn dal yn gymwys i’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a) a (b).