Diwygiadau yn ymwneud ag apelau8.
(1)
Yn erthygl 26(1)(b), yn lle’r geiriau “mharagraff (3)(d)” rhodder “mharagraff (3)(a)(ii) neu (3)(b)(v)”.
(2)
Yn erthygl 26(2)—
(a)
ar ôl y geiriau “ym mharagraff (1) yw” hepgorer “chwe mis ar ôl”;
(b)
“(a)
yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach, deuddeg wythnos o ddyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl;
(b)
yn achos unrhyw apêl arall o dan adran 78(1), chwe mis ar ôl—
(i)
dyddiad yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad sy’n arwain at yr apêl; neu
(ii)
mewn achos pan fo’r awdurdod cynllunio lleol wedi cyflwyno hysbysiad i’r ceisydd yn unol ag erthygl 3(2) bod arno angen gwybodaeth bellach ac nad yw’r ceisydd wedi darparu’r wybodaeth, dyddiad cyflwyno’r hysbysiad hwnnw;”.
(3)
“(3)
Y dogfennau a grybwyllir ym mharagraff (1) yw—
(a)
yn achos apêl deiliad tŷ neu apêl fasnachol fach—
(i)
copi o’r cais a anfonwyd at yr awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;
(ii)
unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill yn ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod cynllunio lleol, ac eithrio unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau yn ymwneud â diwygiadau i’r cais arfaethedig ar ôl i’r awdurdod cynllunio lleol wneud eu penderfyniad; ac
(iii)
yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad;
(b)
yn achos unrhyw apêl arall a wnaed o dan adran 78—
(i)
y cais a wnaed i’r awdurdod cynllunio lleol ac a arweiniodd at yr apêl;
(ii)
yr holl blaniau, lluniadau a dogfennau a anfonwyd at yr awdurdod mewn cysylltiad â’r cais;
(iii)
yr holl ohebiaeth â’r awdurdod sy’n ymwneud â’r cais;
(iv)
unrhyw dystysgrif a ddarparwyd i’r awdurdod o dan erthygl 11;
(v)
unrhyw blaniau, dogfennau neu luniadau eraill sy’n ymwneud â’r cais nad oeddynt wedi eu hanfon at yr awdurdod;
(vi)
yr hysbysiad o’r penderfyniad neu’r dyfarniad, os oes un;
(vii)
os yw’r apêl yn ymwneud â chais am gymeradwyo materion penodol yn unol ag amod ar ganiatâd cynllunio, y cais am y caniatâd hwnnw, y planiau a gyflwynwyd ynghyd â’r cais hwnnw a’r caniatâd cynllunio a roddwyd.”
(4)
“(7)
Yn yr erthygl hon—
ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais deiliad tŷ ond nid yw’n cynnwys—
(a)
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o Ddeddf 1990 mewn perthynas â chais masnachol bach ond nid yw’n cynnwys—
(a)
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
(b)
apêl a gyflwynir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o Ddeddf 1990 neu o dan adran 20 o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.”