- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015 a deuant i rym ar 22 Mehefin 2015.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “apêl” (“appeal”) yw—
mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf(1) neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig(2), penderfynu cais sydd wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru ond nid yw’n cynnwys cais y tybir ei fod wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru yn rhinwedd rheoliad 9(3) o Reoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012(3); a
ystyr “apêl caniatâd hysbyseb” (“advertisement consent appeal”) yw apêl o dan adran 78(1) o’r Ddeddf (fel y’i cymhwysir gan reoliadau a wneir o dan adran 220 o’r Ddeddf) mewn perthynas â chais hysbyseb, ac eithrio apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd a roddir yn ddarostyngedig i amodau;
ystyr “apêl deiliad tŷ” (“householder appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf mewn perthynas â chais deiliad tŷ, ond nid yw’n cynnwys—
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
apêl a wneir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
ystyr “apêl fasnachol fach” (“minor commercial appeal”) yw apêl o dan adran 78(1)(a) o’r Ddeddf mewn perthynas â chais masnachol bach, ond nid yw’n cynnwys—
apêl yn erbyn rhoi unrhyw ganiatâd cynllunio a roddir yn ddarostyngedig i amodau; neu
apêl a wneir ynghyd ag apêl o dan adran 174 o’r Ddeddf neu o dan adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig;
ystyr “apelydd” (“appellant”) yw—
yn achos cais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person a wnaeth y cais hwnnw i’r awdurdod cynllunio lleol;
yn achos apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y person y gwrthodwyd ei gais, y caniatawyd ei gais yn ddarostyngedig i amodau neu nas penderfynwyd ei gais, gan yr awdurdod cynllunio lleol; ac
yn achos apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf, y person y cyflwynwyd hysbysiad iddo o dan adran 207(1) o’r Ddeddf honno;
ystyr “awdurdod cynllunio lleol” (“local planning authority”) yw—
mewn perthynas â chais o dan adran 77 o’r Ddeddf neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a fyddai wedi delio â’r cais pe na bai wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru;
mewn perthynas ag apêl o dan adran 78 o’r Ddeddf neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y corff a oedd yn gyfrifol am benderfynu’r cais a ysgogodd yr apêl; ac
mewn perthynas ag apêl o dan adran 208 o’r Ddeddf, y corff a gyflwynodd yr hysbysiad o dan adran 207(1) o’r Ddeddf honno;
ystyr “cais” (“application”) yw—
mewn perthynas ag adran 77 o’r Ddeddf neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais a atgyfeiriwyd at Weinidogion Cymru;
mewn perthynas ag adran 78 o’r Ddeddf neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais sy’n destun yr apêl; ac
mewn perthynas ag adran 208 o’r Ddeddf, yr hysbysiad a gyflwynwyd gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan adran 207(1) o’r Ddeddf honno;
ystyr “cais deiliad tŷ” (“householder application”) yw cais am—
caniatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella neu addasu tŷ annedd rywfodd arall, neu ddatblygu o fewn cwrtil tŷ annedd o’r fath, neu
newid defnydd er mwyn ehangu cwrtil tŷ annedd,
at unrhyw ddiben sy’n gysylltiedig â meddiant o’r tŷ annedd, ond nid yw’n cynnwys—
unrhyw gais arall am newid defnydd,
cais am godi tŷ annedd, neu
cais am newid nifer yr anheddau mewn adeilad;
ystyr “cais hysbyseb” (“advertisement application”) yw cais am ganiatâd datganedig i arddangos hysbyseb, a wneir o dan Ran 3 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992(6);
ystyr “cais masnachol bach” (“minor commercial application”) yw cais am ganiatâd cynllunio ar gyfer ehangu, gwella, neu addasu rywfodd arall, adeilad presennol nad yw ei arwynebedd llawr allanol gros yn fwy na 250 metr sgwâr ar lefel y llawr daear, neu ran o’r adeilad hwnnw, a ddefnyddir yn gyfredol ar gyfer unrhyw un o’r dibenion a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn, sydd yn gais am—
newid y defnydd o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 1 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un o’r dibenion a nodir naill ai ym mharagraff 2 neu ym mharagraff 3 o’r Atodlen honno;
newid y defnydd, o unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 2 o’r Atodlen i’r Rheoliadau hyn i unrhyw un o’r dibenion a nodir ym mharagraff 3 o’r Atodlen; neu
cyflawni gwaith adeiladu neu weithgareddau eraill ar wyneb blaen siop;
mae i “cyfathrebiad electronig” yr ystyr a roddir i “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(7);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Gŵyl Banc, nac yn ŵyl gyhoeddus arall;
mae “dogfen” (“document”) yn cynnwys ffotograff, map neu blan;
ystyr “dyddiad dechrau” (“starting date”) yw dyddiad yr hysbysiad ysgrifenedig o gael apêl o dan reoliad 4 neu 12, yn ôl y digwydd;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
ystyr “y Ddeddf Adeiladau Rhestredig” (“the Listed Buildings Act”) yw Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990;
ystyr “holiadur” (“questionnaire”) yw dogfen yn y ffurf a gyflenwir gan Weinidogion Cymru i awdurdod cynllunio lleol at ddiben achosion o dan y Rheoliadau hyn, ac at y diben hwn ystyrir bod ffurflen wedi ei chyflenwi pan fo Gweinidogion Cymru wedi ei chyhoeddi ar wefan ac wedi hysbysu’r awdurdod cynllunio lleol o’r canlynol—
bod y ffurflen wedi ei chyhoeddi ar y wefan;
cyfeiriad y wefan; ac
ymhle ar y wefan y gellir cael mynediad at y ffurflen, a sut y gellir cael mynediad ati;
ystyr “hysbysiad perthnasol” (“relevant notice”) yw—
mewn perthynas â chais a atgyfeirir at Weinidogion Cymru o dan adran 77 o’r Ddeddf neu adran 12 neu 19 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, y cais sydd wedi ei atgyfeirio at Weinidogion Cymru; a
mewn perthynas ag apêl a ddygir o dan adran 78 neu 208 o’r Ddeddf neu adran 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, hysbysiad o apêl o dan adran 78 neu 208 o’r Ddeddf neu adran 21 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig(8);
mae “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yn cynnwys dogfennau ategol; ac
nid yw “tŷ annedd” (“dwellinghouse”) yn cynnwys adeilad sy’n cynnwys un neu ragor o fflatiau, nac ychwaith fflat a gynhwysir o fewn adeilad o’r fath.
(2) Yn y Rheoliadau hyn mae cyfeiriadau at—
(a)adran 78 o’r Ddeddf yn cynnwys cyfeiriadau at yr adran honno fel y’i cymhwysir i geisiadau am orchmynion cadw coed a wneir o dan y Ddeddf honno;
(b)adran 12, 19 neu 20 o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig yn cynnwys cyfeiriadau at yr adrannau hynny fel y’u cymhwysir gan adran 74(3) o’r Ddeddf honno(9).
(3) Mewn perthynas â defnyddio cyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig—
(a)mae’r ymadrodd “cyfeiriad” (“address”) yn cynnwys unrhyw rif neu gyfeiriad a ddefnyddir at ddibenion cyfathrebiadau o’r fath, ac eithrio pan fo’r Rheoliadau hyn yn gosod rhwymedigaeth ar unrhyw berson i ddarparu enw a chyfeiriad i unrhyw berson arall, ni chyflawnir y rhwymedigaeth oni fydd y person y gosodir y rhwymedigaeth arno yn darparu cyfeiriad post;
(b)mae cyfeiriadau at hysbysiadau, sylwadau neu ddogfennau eraill, neu at gopïau o ddogfennau o’r fath, yn cynnwys cyfeiriadau at ddogfennau o’r fath neu gopïau ohonynt ar ffurf electronig.
(4) Mae paragraffau (5) i (8) yn gymwys pan ddefnyddir cyfathrebiad electronig gan berson at y diben o gyflawni unrhyw ofyniad yn y Rheoliadau hyn i roi i unrhyw berson arall (“y derbynnydd”), neu anfon ato, unrhyw ddatganiad, hysbysiad neu ddogfen arall.
(5) Ystyrir bod y gofyniad wedi ei gyflawni pan fo’r hysbysiad neu ddogfen arall a drawsyrrir drwy gyfrwng y cyfathrebiad electronig—
(a)yn un y gall y derbynnydd gael mynediad iddo neu iddi;
(b)yn ddarllenadwy ym mhob modd perthnasol; ac
(c)yn ddigon parhaol i’w ddefnyddio neu i’w defnyddio i gyfeirio ato neu ati yn ddiweddarach.
(6) Ym mharagraff (5), ystyr “darllenadwy ym mhob modd perthnasol” (“legible in all material respects”) yw fod yr wybodaeth, a gynhwysir yn yr hysbysiad neu ddogfen arall, ar gael i’r derbynnydd i’r un graddau o leiaf â phe bai’r wybodaeth wedi ei hanfon neu ei rhoi drwy gyfrwng dogfen ar ffurf brintiedig.
(7) Pan fo’r derbynnydd yn cael y cyfathrebiad electronig y tu allan i oriau busnes y derbynnydd, ystyrir ei fod wedi ei gael ar y diwrnod gwaith nesaf.
(8) Mae gofyniad yn y Rheoliadau hyn bod rhaid i unrhyw ddogfen fod yn ysgrifenedig wedi ei fodloni pan fo’r ddogfen honno yn bodloni’r meini prawf ym mharagraff (5), ac mae “ysgrifenedig” (“written”) ac ymadroddion cytras i’w dehongli yn unol â hynny.
3.—(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(2) Mae Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig—
(a)pan wneir apêl deiliad tŷ, apêl caniatâd hysbyseb neu apêl fasnachol fach mewn perthynas â chais a wnaed wedi i’r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad o dan adran 319B o’r Ddeddf (pennu’r weithdrefn ar gyfer achosion penodol: Cymru)(10) fod y mater yn un sydd i’w benderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(3) Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig—
(a)pan wneir apêl nad yw’n apêl deiliad tŷ, apêl caniatâd hysbyseb nac yn apêl fasnachol fach mewn perthynas â chais a wnaed wedi i’r Rheoliadau hyn ddod i rym; a
(b)pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud penderfyniad o dan adran 319B o’r Ddeddf neu adran 88E o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig (pennu’r weithdrefn ar gyfer achosion penodol: Cymru)(11) fod y mater yn un sydd i’w benderfynu ar sail sylwadau ysgrifenedig.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn amrywio penderfyniad o dan adran 319B(4) o’r Ddeddf neu o dan adran 88E(4) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel bod achos apêl mewn ymchwiliad lleol neu mewn gwrandawiad i barhau ar sail sylwadau ysgrifenedig, yn unol â Rhan 1 neu Ran 2 o’r Rheoliadau hyn, yn ôl y digwydd, bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â’r achos i’r cyfryw raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achos hwnnw.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn amrywio penderfyniad o dan adran 319B(4) o’r Ddeddf neu o dan adran 88E(4) o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig fel bod achos apêl ar sail sylwadau ysgrifenedig i barhau mewn ymchwiliad lleol neu mewn gwrandawiad, bydd y Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys.
4. Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi i benderfyniad gael ei wneud o dan adran 319B o’r Ddeddf, hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol, mewn ysgrifen, o’r canlynol—
(a)y dyddiad dechrau;
(b)y rhif cyfeirnod a ddyroddwyd i’r apêl;
(c)y bydd yr apêl yn dilyn y gweithdrefnau a nodir yn Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn; a
(d)y cyfeiriad ar gyfer anfon cyfathrebiadau ysgrifenedig at Weinidogion Cymru ynglŷn â’r apêl.
5. Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon y dogfennau canlynol at Weinidogion Cymru, a chopïau ohonynt at yr apelydd, er mwyn iddynt eu cael o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau—
(a)holiadur wedi ei gwblhau; a
(b)copi o bob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn yr holiadur.
6.—(1) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i’r canlynol—
(a)unrhyw berson a hysbyswyd neu’r ymgynghorwyd ag ef yn unol â’r Ddeddf neu orchymyn datblygu ynglŷn â’r cais; a
(b)unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau i’r awdurdod cynllunio lleol ynglŷn â’r cais hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a)datgan enw’r apelydd a chyfeiriad y safle y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;
(b)disgrifio’r datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(c)nodi’r materion yr hysbyswyd yr apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol ohonynt o dan reoliad 4; a
(d)datgan y bydd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd i’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r cais, cyn ei benderfynu, yn cael eu hanfon gan yr awdurdod cynllunio lleol at Weinidogion Cymru a’r apelydd, ac yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru wrth benderfynu’r apêl, oni thynnir y sylwadau yn ôl mewn ysgrifen o fewn 4 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
7.—(1) Yr hysbysiad perthnasol a’r dogfennau a gyflwynir ynghyd â’r hysbysiad perthnasol yw’r hyn a gynhwysir yn sylwadau’r apelydd mewn perthynas â’r apêl.
(2) Yr holiadur cyflawn a’r dogfennau a anfonir gyda’r holiadur cyflawn yw’r hyn a gynhwysir yn sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael y sylwadau, anfon copi o’r sylwadau a wnaed gan yr awdurdod cynllunio lleol at yr apelydd a rhaid iddynt anfon copi o’r sylwadau a wnaed gan yr apelydd at yr awdurdod cynllunio lleol.
8.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, mewn ysgrifen, ei gwneud yn ofynnol bod yr apelydd, yr awdurdod cynllunio lleol a phersonau eraill sydd â buddiant, yn darparu pa bynnag wybodaeth bellach a bennir sy’n berthnasol i’r apêl.
(2) Rhaid darparu’r cyfryw wybodaeth mewn ysgrifen o fewn pa bynnag gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw wybodaeth bellach oni ddarparwyd yr wybodaeth honno yn unol â pharagraff (1).
9.—(1) Ar unrhyw adeg cyn penderfynu apêl, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw’r gweithdrefnau a nodir yn y Rhan hon bellach yn addas ar gyfer yr apêl honno.
(2) Pan wneir penderfyniad o’r fath, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol mewn ysgrifen o’r canlynol—
(a)y trosglwyddir yr apêl o’r gweithdrefnau a nodir yn Rhan 1 o’r Rheoliadau hyn; a
(b)y bydd yr apêl yn mynd ei blaen yn unol â Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn, i ba bynnag raddau a bennir gan Weinidogion Cymru ar ôl ystyried unrhyw gamau a gymerwyd eisoes mewn perthynas â’r achos honno.
10.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny i’r apelydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol, fynd ymlaen i wneud penderfyniad ar apêl gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau hynny yn unig a anfonwyd o fewn y terfynau amser perthnasol, pan fo’n ymddangos bod deunydd digonol i’w galluogi i gyrraedd penderfyniad.
(2) Ym mharagraff (1) ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn, neu pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 19, unrhyw derfyn amser diweddarach.
11. Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen, hysbysu’r canlynol o’u penderfyniad ar apêl a’u rhesymau dros gyrraedd y penderfyniad hwnnw—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol;
(c)unrhyw berson â buddiant a ofynnodd am gael ei hysbysu o’r penderfyniad; a
(d)unrhyw berson arall a ofynnodd am gael ei hysbysu o’r penderfyniad, ac yr ystyria Gweinidogion Cymru y byddai’n rhesymol ei hysbysu.
12. Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol wedi i benderfyniad gael ei wneud o dan adran 319B o’r Ddeddf neu adran 88E o’r Ddeddf Adeiladau Rhestredig, hysbysu’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol, mewn ysgrifen, o’r canlynol—
(a)y dyddiad dechrau;
(b)y rhif cyfeirnod a ddyroddwyd i’r apêl;
(c)y bydd yr apêl yn dilyn y gweithdrefnau a nodir yn Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn; a
(d)y cyfeiriad ar gyfer anfon cyfathrebiadau ysgrifenedig at Weinidogion Cymru ynglŷn â’r apêl.
13. Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol anfon y dogfennau canlynol at Weinidogion Cymru, a chopïau ohonynt at yr apelydd, er mwyn iddynt eu cael o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau—
(a)holiadur wedi ei gwblhau; a
(b)copi o bob un o’r dogfennau y cyfeirir atynt yn yr holiadur.
14.—(1) Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol roi hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i’r canlynol er mwyn iddynt eu cael o fewn 2 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau—
(a)unrhyw berson a hysbyswyd neu’r ymgynghorwyd ag ef yn unol â’r Ddeddf, y Ddeddf Adeiladau Rhestredig neu orchymyn datblygu, yn ôl y digwydd, ynglŷn â’r cais; a
(b)unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau i’r awdurdod cynllunio lleol ynglŷn â’r cais hwnnw.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—
(a)datgan enw’r apelydd a chyfeiriad y safle y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;
(b)disgrifio’r datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef;
(c)nodi’r materion yr hysbyswyd yr apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol ohonynt o dan reoliad 12;
(d)datgan y bydd copïau o unrhyw sylwadau a wneir gan unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1) yn cael eu hanfon at Weinidogion Cymru ac at yr apelydd;
(e)datgan y bydd unrhyw sylwadau o’r fath yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru wrth benderfynu’r apêl oni thynnir y sylwadau yn ôl gan unrhyw berson a grybwyllir ym mharagraff (1), o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau; ac
(f)datgan y caniateir anfon sylwadau ysgrifenedig pellach at Weinidogion Cymru er mwyn iddynt eu cael o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
15.—(1) Tybir mai’r hysbysiad perthnasol a’r dogfennau a gyflwynir ynghyd â’r hysbysiad perthnasol yw’r hyn a gynhwysir yn sylwadau’r apelydd mewn perthynas â’r apêl.
(2) Caiff yr awdurdod cynllunio lleol ddewis trin yr holiadur a’r dogfennau a anfonir gydag ef fel sylwadau’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r apêl a phan wnânt felly, rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol hysbysu Gweinidogion Cymru a’r apelydd o hynny, wrth anfon yr holiadur at Weinidogion Cymru, a chopi at yr apelydd, yn unol â rheoliad 13.
(3) Pan nad yw’r awdurdod cynllunio lleol yn gwneud dewisiad fel y disgrifir ym mharagraff (2), rhaid iddo sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn cael 2 gopi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
(4) Rhaid i apelydd sy’n dymuno gwneud unrhyw sylwadau pellach i’r rheini ym mharagraff (1) anfon 2 gopi o’r sylwadau pellach hynny at Weinidogion Cymru er mwyn iddynt eu cael o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi at yr apelydd o unrhyw sylwadau a anfonwyd atynt gan yr awdurdod cynllunio lleol, a rhaid iddynt anfon copi at yr awdurdod cynllunio lleol o unrhyw sylwadau a anfonwyd atynt gan yr apelydd.
(6) Rhaid i’r apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol anfon 2 gopi o unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig sydd ganddynt ar sylwadau’r naill a’r llall at Weinidogion Cymru er mwyn iddynt eu cael o fewn 9 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau a rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael, anfon copi o’r sylwadaethau pellach hynny at y parti arall.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru unrhyw wybodaeth bellach oddi wrth yr apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol, nas ceir o fewn 9 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau, oni fydd Gweinidogion Cymru wedi gofyn am yr wybodaeth honno.
(8) Pan fo parti y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo yn dewis defnyddio cyfathrebiadau electronig i gyflwyno, anfon, copïo neu anfon copi o unrhyw sylwadau, holiadur neu ddogfen arall, mae’r rheoliad hwn yn cael effaith yn ddarostyngedig i’r addasiadau canlynol—
(a)os y parti sy’n dewis felly yw’r awdurdod cynllunio lleol, rhodder “y” yn lle’r geiriau “2 gopi o’r” ym mharagraff (3) a hepgorer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (6);
(b)os y parti sy’n dewis felly yw’r apelydd, rhodder “y” yn lle’r geiriau “2 gopi o’r” ym mharagraff (4) a hepgorer y geiriau “2 gopi o” ym mharagraff (6).
16.—(1) Caiff person a hysbyswyd o dan reoliad 14(1) ac sy’n dymuno anfon sylwadau at Weinidogion Cymru wneud hynny ar yr amod bod Gweinidogion Cymru yn cael y sylwadau o fewn 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)anfon copi at yr apelydd ac at yr awdurdod cynllunio lleol o unrhyw sylwadau y mae Gweinidogion Cymru yn eu cael gan unrhyw berson arall mewn perthynas â’r apêl, cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl eu cael; a
(b)pennu cyfnod o ddim llai na 2 wythnos, y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru gael ynddo unrhyw sylwadaethau ysgrifenedig ar y sylwadau.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru ddiystyru sylwadaethau a wneir gan yr awdurdod cynllunio lleol o dan baragraff (2)(b) os methodd yr awdurdod â rhoi’r hysbysiad sy’n ofynnol gan reoliad 14.
17.—(1) Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i wneud penderfyniad ar apêl gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau ysgrifenedig hynny yn unig a gafwyd o fewn y terfynau amser perthnasol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny i’r apelydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol, fynd ymlaen i wneud penderfyniad ar apêl er na wnaed unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfynau amser perthnasol os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt ddeunydd digonol ger eu bron i’w galluogi i gyrraedd penderfyniad ar sail rhinweddau’r achos.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn neu, os yw Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 19, unrhyw derfyn amser diweddarach.
18. Rhaid i Weinidogion Cymru, mewn ysgrifen, hysbysu’r canlynol o’u penderfyniad ar apêl a’u rhesymau dros gyrraedd y penderfyniad hwnnw—
(a)yr apelydd;
(b)yr awdurdod cynllunio lleol;
(c)unrhyw berson â buddiant a ofynnodd am gael ei hysbysu o’r penderfyniad; a
(d)unrhyw berson arall a ofynnodd am gael ei hysbysu o’r penderfyniad, ac yr ystyria Gweinidogion Cymru y byddai’n rhesymol ei hysbysu.
19. Caiff Gweinidogion Cymru, mewn achos penodol, roi cyfarwyddiadau sy’n estyn y terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn.
20. Caniateir anfon neu gyflenwi hysbysiadau neu ddogfennau y mae’n ofynnol neu yr awdurdodir eu hanfon neu eu cyflenwi o dan y Rheoliadau hyn—
(a)drwy’r post; neu
(b)drwy ddefnyddio cyfathrebiadau electronig i drawsyrru’r hysbysiad neu’r ddogfen (yn ôl y digwydd) at berson ym mha bynnag gyfeiriad a bennir am y tro gan y person hwnnw at ddiben o’r fath.
21. Pan nad yw person bellach yn fodlon derbyn y defnydd o gyfathrebiadau electronig at unrhyw ddiben o’r Rheoliadau hyn y gellir ei gyflawni yn electronig, rhaid i’r person roi hysbysiad ysgrifenedig sydd—
(a)yn tynnu’n ôl unrhyw gyfeiriad yr hysbyswyd Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol ohono at y diben hwnnw, neu
(b)yn dirymu unrhyw gytundeb yr ymunwyd ynddo gyda Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio lleol at y diben hwnnw,
a bydd tynnu’n ôl neu ddirymu felly yn derfynol ac yn cael effaith ar ddyddiad a bennir gan y person yn yr hysbysiad, ond ddim llai nag 1 wythnos ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad.
22.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003(12) (“Rheoliadau 2003”) wedi eu dirymu.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), penderfynir apêl, gan gynnwys apêl deiliad tŷ, apêl caniatâd hysbyseb neu apêl fasnachol fach o dan Reoliadau 2003 pan fo’r apêl—
(a)i gael ei hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig; a
(b)wedi ei gwneud mewn perthynas â chais, gan gynnwys cais deiliad tŷ, cais caniatâd hysbyseb neu gais masnachol bach, a wnaed cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym.
(3) Pan fo penderfyniad a wnaed gan Weinidogion Cymru ar apêl yr oedd Rheoliadau 2003 yn gymwys iddi yn cael ei wrthdroi yn ddiweddarach mewn achos gerbron unrhyw lys, bydd y penderfyniad yn cael ei ail-wneud yn unol â Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn.
Carl Sargeant
Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol, un o Weinidogion Cymru
20 Mai 2015
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: