RHAN 2Gweithdrefn ar gyfer Apelau Eraill

Penderfynu ar apêl17

1

Caiff Gweinidogion Cymru fynd ymlaen i wneud penderfyniad ar apêl gan gymryd i ystyriaeth y sylwadau ysgrifenedig hynny yn unig a gafwyd o fewn y terfynau amser perthnasol.

2

Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’u bwriad i wneud hynny i’r apelydd ac i’r awdurdod cynllunio lleol, fynd ymlaen i wneud penderfyniad ar apêl er na wnaed unrhyw sylwadau ysgrifenedig o fewn y terfynau amser perthnasol os yw’n ymddangos i Weinidogion Cymru fod ganddynt ddeunydd digonol ger eu bron i’w galluogi i gyrraedd penderfyniad ar sail rhinweddau’r achos.

3

Yn y rheoliad hwn, ystyr “terfynau amser perthnasol” (“relevant time limits”) yw’r terfynau amser a ragnodir gan y Rheoliadau hyn neu, os yw Gweinidogion Cymru wedi arfer y pŵer o dan reoliad 19, unrhyw derfyn amser diweddarach.