xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 1Y Weithdrefn ar gyfer Apelau Deiliad Tŷ, Apelau Caniatâd Hysbyseb ac Apelau Masnachol Bach

Hysbysu personau sydd â buddiant

6.—(1Rhaid i’r awdurdod cynllunio lleol, o fewn 5 diwrnod gwaith ar ôl y dyddiad dechrau, roi hysbysiad ysgrifenedig o’r apêl i’r canlynol—

(a)unrhyw berson a hysbyswyd neu’r ymgynghorwyd ag ef yn unol â’r Ddeddf neu orchymyn datblygu ynglŷn â’r cais; a

(b)unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau i’r awdurdod cynllunio lleol ynglŷn â’r cais hwnnw.

(2Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1)—

(a)datgan enw’r apelydd a chyfeiriad y safle y mae’r apêl yn ymwneud ag ef;

(b)disgrifio’r datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef;

(c)nodi’r materion yr hysbyswyd yr apelydd a’r awdurdod cynllunio lleol ohonynt o dan reoliad 4; a

(d)datgan y bydd unrhyw sylwadau a gyflwynwyd i’r awdurdod cynllunio lleol mewn perthynas â’r cais, cyn ei benderfynu, yn cael eu hanfon gan yr awdurdod cynllunio lleol at Weinidogion Cymru a’r apelydd, ac yn cael eu hystyried gan Weinidogion Cymru wrth benderfynu’r apêl, oni thynnir y sylwadau yn ôl mewn ysgrifen o fewn 4 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau.