Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015

Ceisiadau am adolygu cynlluniau

5.—(1Caiff y personau canlynol ofyn am adolygiad o gynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth (yn ôl y digwydd)—

(a)pan fo’r cynllun yn ymwneud â diwallu anghenion oedolyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n oedolyn)—

(i)yr oedolyn, a

(ii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn;

(b)pan fo’r cynllun yn ymwneud â diwallu anghenion plentyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n blentyn)—

(i)y plentyn,

(ii)unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn; a

(iii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn.

(2Rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni nad yw’r cynllun yn diwallu anghenion cymwys y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.

(3Caiff yr awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni bod y cynllun yn diwallu anghenion cymwys y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.

(4Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 7 ac 8, mae person wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran oedolyn neu blentyn—

(a)os yw’r oedolyn neu’r plentyn wedi gofyn i’r person weithredu ar ei ran, neu

(b)os nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd a bod y person wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005(1) (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch sut y mae anghenion y person i’w diwallu.