- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Gofal Cymdeithasol, Cymru
Gwnaed
21 Mai 2015
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1 Mehefin 2015
Yn dod i rym
6 Ebrill 2016
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 54(5), 54(6), 55 a 126(3) o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(1), yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gofal a Chymorth (Cynllunio Gofal) (Cymru) 2015.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2016 ac maent yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “anghenion cymwys” (“eligible needs”) mewn perthynas â pherson yw’r anghenion hynny y mae’n ofynnol i’r awdurdod lleol eu diwallu o dan adran 35, 37, 40 neu 42 o’r Ddeddf;
ystyr “canlyniadau personol” (“personal outcomes”) yw’r canlyniadau sydd wedi eu nodi mewn perthynas â pherson yn unol ag asesiad o dan adran 19, 21 neu 24 o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun cymorth” (“support plan”) yw cynllun y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei lunio a’i gynnal o dan adran 54(2) o’r Ddeddf;
ystyr “cynllun gofal a chymorth” (“care and support plan”) yw cynllun y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei lunio a’i gynnal o dan adran 54(1) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
2. Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod unrhyw berson sy’n gyfrifol am lunio, adolygu neu ddiwygio cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth—
(a)yn meddu ar y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymhwysedd i wneud hynny, a
(b)wedi cael hyfforddiant priodol.
3.—(1) Rhaid i gynllun gofal a chymorth a chynllun cymorth gynnwys disgrifiad o’r canlynol—
(a)anghenion cymwys y person,
(b)y canlyniadau personol,
(c)y camau sydd i’w cymryd gan yr awdurdod lleol a’r camau sydd i’w cymryd gan bersonau eraill i helpu’r person sicrhau’r canlyniadau personol neu ddiwallu fel arall ei anghenion cymwys,
(d)y trefniadau ar gyfer monitro i ba raddau y mae’r canlyniadau personol wedi eu sicrhau, ac
(e)y trefniadau ar gyfer adolygu’r cynllun.
(2) Pan fo rhai neu bob un o anghenion y person i’w diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol, rhaid i gynllun gofal a chymorth a chynllun cymorth gynnwys hefyd ddisgrifiad o’r canlynol—
(a)yr anghenion cymwys sydd i’w diwallu drwy daliadau uniongyrchol(2), a
(b)swm ac amlder y taliadau uniongyrchol.
(3) Pan fo ymholiadau wedi eu gwneud gan yr awdurdod lleol yn unol â’i ddyletswydd o dan adran 126(1) o’r Ddeddf (oedolion sy’n wynebu risg), rhaid i’r cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn sy’n destun yr ymholiadau hynny gynnwys cofnod o ganlyniad yr ymholiadau.
4.—(1) Rhaid i’r awdurdod lleol adolygu cynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth os yw’n ymddangos iddo nad yw’r cynllun yn diwallu anghenion cymwys y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.
(2) Pan fo’r cynllun yn cynnwys manylion taliadau uniongyrchol yn unol â rheoliad 3(2), rhaid i’r cynllun gael ei adolygu yr un pryd ag unrhyw adolygiad o’r taliadau uniongyrchol yn unol â rheoliadau o dan adran 53(1).
5.—(1) Caiff y personau canlynol ofyn am adolygiad o gynllun gofal a chymorth neu gynllun cymorth (yn ôl y digwydd)—
(a)pan fo’r cynllun yn ymwneud â diwallu anghenion oedolyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n oedolyn)—
(i)yr oedolyn, a
(ii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn;
(b)pan fo’r cynllun yn ymwneud â diwallu anghenion plentyn (gan gynnwys anghenion gofalwr sy’n blentyn)—
(i)y plentyn,
(ii)unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn; a
(iii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn.
(2) Rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni nad yw’r cynllun yn diwallu anghenion cymwys y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.
(3) Caiff yr awdurdod lleol wrthod cydymffurfio â’r cais os yw wedi ei fodloni bod y cynllun yn diwallu anghenion cymwys y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef.
(4) Yn y rheoliad hwn, ac yn rheoliadau 7 ac 8, mae person wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran oedolyn neu blentyn—
(a)os yw’r oedolyn neu’r plentyn wedi gofyn i’r person weithredu ar ei ran, neu
(b)os nad oes gan yr oedolyn neu’r plentyn alluedd a bod y person wedi ei awdurdodi o dan Ddeddf Galluedd Meddwl 2005(3) (p’un ai yn nhermau cyffredinol neu benodol) i wneud penderfyniadau ynghylch sut y mae anghenion y person i’w diwallu.
6.—(1) Yn dilyn yr adolygiad, rhaid i’r awdurdod lleol ystyried p’un a ddylid cadarnhau, diwygio neu gau’r cynllun gofal a chymorth neu’r cynllun cymorth (yn ôl y digwydd).
(2) Wrth benderfynu p’un a ddylid cadarnhau, diwygio neu gau’r cynllun, rhaid i’r awdurdod lleol roi sylw penodol i’r canlynol—
(a)unrhyw newidiadau i’r canlyniadau personol neu amgylchiadau’r person,
(b)unrhyw newidiadau i anghenion cymwys y person,
(c)a yw’r camau sydd wedi eu cymryd gan yr awdurdod neu bersonau eraill yn helpu’r person i sicrhau’r canlyniadau personol neu ddiwallu fel arall ei anghenion cymwys, a
(d)a oes ffyrdd eraill y gall yr awdurdod neu bersonau eraill helpu’r person i sicrhau’r canlyniadau personol neu ddiwallu fel arall ei anghenion cymwys.
(3) Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cadarnhau’r cynllun, rhaid i’r awdurdod gofnodi’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad.
(4) Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu diwygio’r cynllun, rhaid i’r awdurdod lunio cynllun diwygiedig.
(5) Os yw’r awdurdod lleol yn penderfynu cau’r cynllun, rhaid i’r awdurdod lunio datganiad cau.
(6) Mae datganiad cau yn ddogfen sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)y rhesymau dros gau’r cynllun,
(b)gwerthusiad ynghylch i ba raddau y cafodd y canlyniadau personol eu sicrhau, ac
(c)pan fo’r awdurdod lleol yn dal yn fodlon bod gan y person y mae’r cynllun yn ymwneud ag ef anghenion am ofal a chymorth, cadarnhad bod yr awdurdod wedi ei fodloni y gall anghenion y person gael eu diwallu drwy ddarparu gwybodaeth, cyngor neu gynhorthwy, gwasanaethau atal neu unrhyw beth arall a all fod ar gael yn y gymuned.
7.—(1) Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun gofal a chymorth i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
(2) Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun gofal a chymorth, yn penderfynu diwygio’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
(3) Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun gofal a chymorth, yn penderfynu cadarnhau’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r cofnod o’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
(4) Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun gofal a chymorth, yn penderfynu cau’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r datganiad cau i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
(5) At ddibenion paragraffau (1) i (4), y personau yw—
(a)os yw’r cynllun gofal a chymorth wedi ei lunio ar gyfer oedolyn—
(i)yr oedolyn y cafodd ei lunio ar ei gyfer,
(ii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran yr oedolyn, a
(iii)pan na fo gan yr oedolyn alluedd i fedru gofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf yr oedolyn ym marn yr awdurdod lleol;
(b)os yw’r cynllun gofal a chymorth wedi ei lunio ar gyfer plentyn—
(i)y plentyn y cafodd y cynllun ei lunio ar ei gyfer,
(ii)unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â llesiant y plentyn,
(iii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y plentyn, a
(iv)pan na fo gan y plentyn alluedd neu pan na fo’n gymwys i ofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf y plentyn ym marn yr awdurdod lleol.
8.—(1) Rhaid i’r awdurdod lleol roi copi o’r cynllun cymorth i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
(2) Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun cymorth, yn penderfynu diwygio’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r cynllun diwygiedig i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
(3) Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun cymorth, yn penderfynu cadarnhau’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r cofnod o’r penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
(4) Os yw’r awdurdod lleol, yn dilyn adolygiad o gynllun cymorth, yn penderfynu cau’r cynllun, rhaid iddo roi copi o’r datganiad cau i’r personau a ddisgrifir ym mharagraff (5).
(5) At ddibenion paragraffau (1) i (4), y personau yw—
(a)os yw’r cynllun cymorth wedi ei lunio ar gyfer gofalwr sy’n oedolyn—
(i)y gofalwr sy’n oedolyn y cafodd ei lunio ar ei gyfer,
(ii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y gofalwr sy’n oedolyn, a
(iii)pan na fo gan y gofalwr sy’n oedolyn alluedd i fedru gofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf y gofalwr sy’n oedolyn ym marn yr awdurdod lleol;
(b)os yw’r cynllun cymorth wedi ei lunio ar gyfer gofalwr sy’n blentyn—
(i)y gofalwr sy’n blentyn y cafodd ei lunio ar ei gyfer,
(ii)unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y gofalwr sy’n blentyn, oni fyddai gwneud hynny’n anghyson â llesiant y gofalwr sy’n blentyn,
(iii)unrhyw berson sydd wedi ei awdurdodi i weithredu ar ran y gofalwr sy’n blentyn, a
(iv)pan na fo gan y gofalwr sy’n blentyn alluedd neu pan na fo’n gymwys i ofyn i berson weithredu ar ei ran ac nad oes unrhyw berson wedi ei awdurdodi i weithredu ar ei ran, unrhyw berson sy’n gweithredu er lles pennaf y gofalwr sy’n blentyn ym marn yr awdurdod lleol.
Mark Drakeford
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
21 Mai 2015
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae adran 54 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i lunio a chynnal cynllun gofal a chymorth ar gyfer oedolyn neu blentyn y mae arno ddyletswydd iddo i ddiwallu anghenion o dan adran 35 neu 37 o’r Ddeddf ac i lunio cynllun cymorth i ofalwr y mae arno ddyletswydd iddo i ddiwallu anghenion o dan adran 40 neu 42 o’r Ddeddf. Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau o’r fath.
Mae rheoliad 2 yn gwneud darpariaeth ynghylch hyfforddiant ac arbenigedd personau sy’n llunio, cynnal neu ddiwygio cynlluniau.
Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch cynnwys cynlluniau, gan gynnwys pan fo rhai neu bob un o anghenion y person i’w diwallu drwy wneud taliadau uniongyrchol.
Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ynghylch adolygu cynlluniau a’r amgylchiadau y mae’n rhaid i awdurdod lleol adolygu cynllun odanynt. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth ar gyfer pwy sy’n cael gofyn am adolygiad o gynllun ac o dan ba amgylchiadau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio â’r cais hwnnw ac o dan ba amgylchiadau y caiff wrthod gwneud hynny.
Mae rheoliad 6 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y camau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol eu cymryd yn dilyn adolygiad, gan ddibynnu ar p’un a benderfynir cadarnhau, diwygio neu gau’r cynllun. Mae rheoliadau 7 ac 8 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y personau y mae’n rhaid rhoi copïau o’r cynllun, y cynllun diwygiedig, y datganiadau cau a chofnodion eraill iddynt.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi drwy gysylltu â’r Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
Caiff rheoliadau o dan adrannau 50 i 53 o’r Ddeddf ei gwneud yn ofynnol neu ganiatáu i awdurdod lleol wneud taliadau i berson tuag at y gost o ddiwallu ei anghenion. Cyfeirir at daliadau o’r fath yn y Ddeddf fel “taliadau uniongyrchol”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: